Rhestr hir 2023

Cyhoeddir rhestr hir ryngwladol un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i ysgrifenwyr ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – heddiw, ddydd Iau 26 Ionawr. Gydag awduron yn hanu o'r DU, Iwerddon, Nigeria, Cenia, Somalia, Libanus ac Awstralia, mae'r rhestr hir eleni o 12 yn cynnwys cynifer o newydd-ddyfodiaid ag enwau cyfarwydd, gyda lleisiau pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a menywod yn cael lle blaenllaw ar y rhestr hir.

Drwy themâu dod i oedran, adfyd a chariad, mae'r rhestr hir eleni'n cynnwys wyth nofel, dau gasgliad o farddoniaeth a dau gasgliad o straeon byrion:

  • Limberlost gan Robbie Arnott (Atlantic Books) – nofel (Awstralia)
  • Seven Steeples gan Sara Baume (Tramp Press) – nofel (Iwerddon)
  • God's Children Are Little Broken Thingsgan Arinze Ifeakandu (Orion, Weidenfeld & Nicolson) – casgliad o straeon byrion (Nigeria)
  • Maps of Our Spectacular Bodiesgan Maddie Mortimer (Picador, Pan Macmillan) – nofel (y DU)
  • Phantom Gang gan Ciaran O'Rourke (The Irish Pages Press) – casgliad o farddoniaeth (Iwerddon)
  • Things They Lostgan Okwiri Oduor (Oneworld) – nofel (Cenia)
  • Losing the Plotgan Derek Owusu (Canongate Books) – nofel (y DU)
  • I'm a Fan gan Sheena Patel (Rough Trade Books) – nofel (y DU)
  • Send Nudes gan Saba Sams (Bloomsbury Publishing) – casgliad o straeon byrion (y DU)
  • Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Headgan Warsan Shire (Chatto & Windus) – casgliad o farddoniaeth (Somalia – y DU)
  • Briefly, A Delicious Life gan Nell Stevens (Picador, Pan Macmillan) – nofel (y DU)
  • No Land to Light Ongan Yara Zgheib (Atlantic Books, Allen & Unwin) – nofel (Libanus)

Mae ysgrifenwyr sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica ymhlith yr awduron newydd i gadw llygad arnynt ar y rhestr hir eleni. Mae Warsan Shire, bardd uchel ei bri o dras Somalïaidd-Prydeinig a gyfrannodd at Lemonade a Black is King gan Beyoncé, yn talu teyrnged i fenywod du a merched du yn eu harddegau yn Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head, ac mae Okwiri Oduor, a anwyd yng Nghenia ond sy'n byw yn yr Almaen, yn defnyddio realaeth hudol mewn modd trawiadol yn Things They Lost. Mae Arinze Ifeakandu o Nigeria yn archwilio ystyr bod yn ddyn cwiar yn ei wlad frodorol yn y casgliad anhygoel God's Children Are Little Broken Things, ac mae Derek Owusu yn ystyried effaith taith mam o Ghana i'r DU ar genedlaethau gwahanol yn ei ail nofel, Losing the Plot.

Mae wyth o'r 12 enwebai yn fenywod ac mae eu lleisiau'n amlwg ar y rhestr hir eleni, gan gynnwys llenorion addawol o Brydain sy'n archwilio sut mae'n teimlo i ddod i oedran mewn amgylchedd gelyniaethus: mae Send Nudes, casgliad tyner a ffraeth Saba Sam, yn amlygu'r safonau dwbl sy'n peri dryswch i fenywod heddiw; mae Sheena Patel yn cynnig beirniadaeth dreiddgar o'r cyfryngau cymdeithasol a pherthnasoedd heteronormadol yn I’m a Fan; mae Nell Stevens yn mentro i fyd ffuglen drwy gyflwyno prif gymeriad benywaidd sy'n gwawdio’r perthnasoedd rhwng y rhywiau yn Briefly, A Delicious Life; ac mae Maps of Our Spectacular Bodies, gwaith Maddie Mortimer a enillodd wobr Desmond Elliott, yn cynnig portread tywyll o ddoniol o berthynas rhwng mam a’i merch.

Hefyd ar y rhestr hir ceir llyfrau sy'n ystyried hunaniaeth genedlaethol a chwilio am gartref. Mae nofel gyfareddol yr Awstraliad Robbie Arnott am ddod i oedran, Limberlost, yn mynd â darllenwyr i gefn gwlad Tasmania ac mae syniad cartref yn cymryd tro ingol yn No Land to Light On, ail nofel hynod drist Yara Zgheib, a anwyd yn Libanus, sy’n portreadu pâr ifanc o Syria sy'n cael eu gwahanu gan waharddiad teithio cas. Gan droi at Iwerddon, mae Phantom Gang, casgliad beiddgar Ciaran O'Rourke o farddoniaeth, yn ystyried anghydraddoldebau byd-eang o gyd-destun ei famwlad ac mae Sara Baume yn trafod ymdrechion pâr ifanc i ddiflannu i gefn gwlad Iwerddon yn Seven Steeples, sy'n nofel drawiadol.

Bydd y rhestr hir bellach yn cael ei lleihau i restr fer o chwe chyfrol gan banel ysblennydd o feirniaid wedi'i gadeirio gan Di Speirs, cynhyrchydd clodwiw o Brydain a golygydd llyfrau BBC Radio, ochr yn ochr â Jon Gower, awdur arobryn o Gymru a darlithydd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe; Maggie Shipstead, awdur hynod lwyddiannus o America ac enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2012; Rachel Long, bardd o Brydain a sylfaenydd Octavia, cymundod barddoniaeth i fenywod du; a Prajwal Parajuly, awdur o dras Nepalaidd-Indiaidd a gyrhaeddodd restr fer y wobr yn 2013.

Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, sy'n werth £20,000, yn un o wobrau llenyddol mwyaf clodfawr y DU, a hi yw'r wobr lenyddol fwyaf yn y byd i ysgrifenwyr ifanc hefyd. Dyfernir y wobr am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg gan awdur 39 oed neu'n iau. Mae'n dathlu ffuglen ryngwladol o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.

Enillodd Patricia Lockwood, bardd, nofelydd a thraethodydd o America, y wobr yn 2022 am ei nofel gyntaf ddyfeisgar, No One Is Talking About This (Bloomsbury Publishing). Meddai Namita Gokhale, cadeirydd y beirniaid yn 2022: “Mae No One Is Talking About This yn fyfyrdod hanfodol ar ddiwylliant ar-lein heddiw. Yn ogystal â bod yn enillydd amserol iawn, Patricia Lockwood yw llais cenhedlaeth o lenorion newydd a fagwyd dan bwysau parhaus newyddion amser real a'r cyfryngau cymdeithasol.”

Cyhoeddir rhestr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe ddydd Iau 23 Mawrth ac yna cynhelir Seremoni'r Enillydd yn Abertawe nos Iau 11 Mai, cyn Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ddydd Sul 14 Mai.

Rhannu'r stori