Yr Athro Tom Crick, Dr Alma Rahat a Dr Sean Walton

O'r chwith i'r dde: Yr Athro Tom Crick, Dr Alma Rahat a Dr Sean Walton

Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith carfan newydd o 51 o gymrodyr Turing sydd wedi ymuno â Sefydliad Alan Turing o brifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled y DU.

Nod Cynllun Cymrodoriaethau Turing yw tyfu'r ecosystem gwyddor data a deallusrwydd artiffisial yn y DU drwy gefnogi, cynnal a datblygu gyrfaoedd y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a fydd yn arwain y ffordd yn fyd-eang, yn ogystal â chyfrannu at nodau trosfwaol y Sefydliad.

Mae diddordebau ymchwil y cymrodyr newydd yn cwmpasu popeth o astudiaethau esblygiadol, geneteg ddynol, cyfiawnder ynni a dyfodol dinasoedd, i golli bioamrywiaeth.

Y tri chymrawd Turing o Abertawe yw:

  • Yr Athro Tom Crick MBE, Athro Polisi Digidol ym Mhrifysgol Abertawe a Phrif Gynghorydd Gwyddonol Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
  • Dr Alma Rahat, Athro Cysylltiol mewn Gwyddor Data.
  • Dr Sean Walton, Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg.

Sefydliad Alan Turing yw sefydliad cenedlaethol y DU ar gyfer gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.

Mae'r Sefydliad yn dwyn enw Alan Turing, yr ystyrir bod ei waith arloesol mewn mathemateg, peirianneg a chyfrifiadureg ddamcaniaethol a chymhwysol wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwyddor data a deallusrwydd artiffisial yr oes fodern.

Yn ogystal â chymryd rhan mewn cymuned ymchwil ryngddisgyblaethol a chydweithredol Sefydliad Turing, bydd y cymrodyr newydd hefyd yn cefnogi gwaith ym meysydd sgiliau ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Meddai'r Athro Mark Girolami, Prif Wyddonydd Sefydliad Alan Turing: “Mae'n bleser gen i groesawu carfan newydd o gymrodyr Turing, sy'n ymuno â ni o bob rhan o'n rhwydwaith prifysgolion, gan gydnabod eu statws fel y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a fydd yn arwain y ffordd yn fyd-eang mewn gwyddorau data, deallusrwydd artiffisial a meysydd cysylltiedig.

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwerth aruthrol y byddan nhw'n ei ychwanegu at ein cymuned gwyddoniaeth ac arloesi amrywiol a bywiog, gan gynnwys gwneud cyfraniad hollbwysig at gyflawni strategaeth Turing wrth i ni ymdrechu i newid y byd er gwell drwy wyddor data a deallusrwydd artiffisial.”

Rhannu'r stori