Cwpan Varsity

Bydd Icon Creative Design, asiantaeth ddylunio o Gymru, yn noddi Prifysgol Abertawe eto yn Varsity Cymru eleni.

Mae Varsity Cymru'n ŵyl chwaraeon wythnos o hyd gyda myfyrwyr yn cystadlu mewn mwy na 50 o gampau, gan gynnwys nofio, golff, pêl-droed, pêl-rwyd, hoci a chleddyfaeth, ac eleni mae Prifysgol Abertawe'n falch o gynnal y gweithgareddau.

Cynhelir y rhan fwyaf o'r digwyddiadau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ddydd Mercher 24 Ebrill, gan arwain at gemau rygbi'r dynion a'r menywod yn Stadiwm Swansea.com yn ddiweddarach y noson honno.

Bydd gemau'r dynion a'r menywod ar gael yn fyw ar-lein drwy S4C Clic yn ogystal ag ar dudalen Facebook Rygbi Pawb a sianel YouTube S4C.

Varsity Cymru yw'r ail ddigwyddiad chwaraeon mwyaf rhwng prifysgolion yn y DU ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt ac fe'i cefnogir yn frwd gan filoedd o fyfyrwyr o'r ddwy brifysgol. 

Ar hyn o bryd, Caerdydd yw deiliad Tarian a Chwpan Varsity Cymru, yn dilyn buddugoliaethau'r brifysgol honno yn 2023, felly bydd Abertawe'n awyddus i ymgymryd â'r her eleni ar dir cartref.

Meddai Rachel Thomas, Pennaeth Datblygu ac Ymgysylltu Prifysgol Abertawe: “Mae Varsity Cymru bob amser wedi bod yn ddigwyddiad y mae pobl yn edrych ymlaen ato yng nghalendr y Brifysgol, ac mae'r un peth yn wir eleni wrth i bob tocyn gael ei werthu! Rydyn ni mor ddiolchgar i'n noddwyr, y mae eu cymorth parhaus yn ein galluogi i roi proffil mor uchel i chwaraeon myfyrwyr.”

Meddai Androulla Webb, Rheolwr Gyfarwyddwr Icon Creative Design: “Rydyn ni wrth ein boddau'n noddi Varsity Cymru eto eleni. Mae'n wych gweld yr awyrgylch a'r cwmnigarwch a grëir drwy gystadleuaeth gyfeillgar, gan uno cyfranogwyr a chefnogwyr wrth ddathlu chwaraeon Cymru. Pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld pwy sy'n ennill y dydd yn 2024.”

Rhannu'r stori