Myfyriwr ar brofiad gwaith

Mae Prifysgol Abertawe yn yr 11eg safle yn y DU yn Nhabl Prifysgolion Gorau am Brofiad Gwaith RateMyPlacement 2024/25, gan roi llwyfan i'r 50 prifysgol orau yn y DU sy'n adnabyddus am eu hymrwymiad i gynnig cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr.

Mae safleoedd RateMyPlacement, sy'n seiliedig ar adolygiadau gan fyfyrwyr ar RateMyPlacement.co.uk yn unig, yn nodi mai Prifysgol Abertawe yw'r sefydliad gorau yng Nghymru am brofiad gwaith, gan amlygu ymrwymiad diflino Abertawe i feithrin cyfleoedd rhagorol ar gyfer llwyddiant myfyrwyr.

Gyda dysgu sy'n seiliedig ar waith yn rhan fwyfwy pwysig o fywyd prifysgol i fyfyrwyr, mae gan brifysgolion rôl hollbwysig wrth helpu myfyrwyr i baratoi a chael profiad gwaith ystyrlon, gan ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a rhoi hwb i'w CV yn y bôn.

Mae safleoedd RateMyPlacement yn defnyddio adborth gan fyfyrwyr sydd wedi cwblhau lleoliadau gyda chyflogwyr, gan gynnig dealltwriaeth o sut mae eu prifysgol yn eu hannog, yn eu cefnogi a'u paratoi nhw i gael profiad gwaith a rhagori wrth ei wneud.

Gan fynegi barn ar y cyflawniad hwn, meddai'r Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-ganghellor Addysg: "Rydym yn hynod falch o berfformiad rhagorol Prifysgol Abertawe yn safleoedd RateMyPlacement. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ein hymroddiad i feithrin diwylliant o gyflogadwyedd a rhoi cyfleoedd digynsail i fyfyrwyr gael datblygiad proffesiynol.

"Ym marchnad swyddi i raddedigion gystadleuol heddiw, mae profiad ymarferol yn amhrisiadwy. Mae safleoedd fel hyn yn helpu i dywys myfyrwyr tuag at sefydliadau sy'n blaenoriaethu dysgu ymarferol a chreu cysylltiadau â diwydiant.  Mae safle uchel Prifysgol Abertawe yn y safleoedd hyn yn dangos rhagolygon cyflogadwyedd ei graddedigion ac yn atgyfnerthu ei hymrwymiad i baratoi myfyrwyr am lwyddiant yn eu gyrfaoedd".

Dysgwch fwy am ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gyflogadwyedd myfyrwyr.

Rhannu'r stori