Clinig y Gyfraith Abertawe

Mae Clinig y Gyfraith Abertawe wedi lansio'r clinig pwrpasol cyntaf yng Nghymru sy'n rhoi cyngor ar anafiadau personol mewn cydweithrediad â Hodge Jones & Allen, cwmni arobryn o Lundain.

Mae'r clinig anafiadau personol yn cynnig apwyntiadau 30 munud ar-lein am ddim sy'n rhoi cyngor cyfrinachol ar anafiadau personol i’r cyhoedd gydag aelod o dîm anafiadau personol Hodge Jones & Allen.

Gall y clinig anafiadau personol, sydd ar gael ar ddydd Llun o 4pm tan 5.30pm dros Zoom neu Teams, helpu aelodau o'r cyhoedd drwy roi cyngor cychwynnol ar y canlynol:

  • Damweiniau ffyrdd, gan gynnwys hawliadau sy'n ymwneud â cherddwyr, beicwyr modur, a dulliau eraill o gludiant
  • Damweiniau yn y gwaith
  • Damweiniau mewn mannau cyhoeddus
  • Damweiniau marwol ac anafiadau
  • Anafiadau a achosir gan gynhyrchion diffygiol
  • Anafiadau difrifol a chymhleth, e.e. anafiadau i'r pen, trychiadau, anafiadau i linyn asgwrn y cefn ac anafiadau orthopedig a seiciatrig
  • Llosgiadau, sgaldiadau a chreithiau
  • Anafiadau deintyddol
  • Anafiadau i'r llygad
  • Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)

Cefnogir apwyntiadau Clinig y Gyfraith Abertawe gan fyfyrwyr y gyfraith Prifysgol Abertawe, sydd wedi cael eu hyfforddi'n llawn, gan roi cyfle gwych iddynt feithrin sgiliau gwerthfawr sy'n hollbwysig i'w gyrfaoedd cyfreithiol arfaethedig.

Meddai'r Athro Richard Owen, cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe: “Mae'r cydweithrediad newydd hwn â Hodge Jones & Allen yn destun cyffro mawr i ni. Mae hawliadau anafiadau personol fel arfer y tu allan i gwmpas cymorth cyfreithiol, felly bydd hyn yn creu llwybr i gyfiawnder ar gyfer cleientiaid y mae anafiadau wedi newid eu bywydau’n aml, yn ogystal â helpu ein myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau cyflogadwyedd y mae eu hangen arnyn nhw i fod yn barod i weithio ar ôl graddio.”

Meddai Daniel Denton, un o bartneriaid Hodge Jones & Allen: “Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Abertawe a'i myfyrwyr sy'n gwirfoddoli. Rwyf bob amser wedi bod yn ymroddedig i helpu pobl a all ddymuno gwneud hawliad anaf personol a bydd gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr yn darparu budd personol ychwanegol. Mae'n bwysig i mi fod gan bawb lwybr hygyrch at ddeall eu hawliau a'u bod yn gallu sicrhau cyfiawnder."

Rhannu'r stori