Mae'r Athro Matt Jones yn gwenu ac mae wedi croesi ei freichiau. Mae'n gwisgo siwmper las ac yn sefyll o flaen gwaith celf llachar.

Mae'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) wedi dyfarnu cymrodoriaeth bersonol uchel ei bri dros bum mlynedd i'r Athro Matt Jones o Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe i ddilyn agenda fentrus ac uchelgeisiol i ymchwilio i ddeallusrwydd artiffisial.

Er bod llawer o bobl yn dweud eu bod yn teimlo'n bryderus ac yn ddiymadferth wrth feddwl am effaith deallusrwydd artiffisial ar eu bywydau pob dydd a'u bywoliaeth, mae cymrodoriaeth yr Athro Jones am lunio systemau deallusrwydd artiffisial rhyngweithiol sy'n cynnwys ac yn grymuso pawb. Nod yr ymchwil yw ailgyfeirio o systemau a allai wneud i bobl deimlo'n ddiymadferth, yn ddiangen a heb eu gwerthfawrogi, gan droi yn lle hynny tuag at ymagweddau sy'n galluogi pobl i brofi llawenydd, creadigrwydd, cysylltiad a grym wrth iddynt ddefnyddio deallusrwydd artiffisial arloesol i wneud yn fawr o'u galluoedd, eu rhinweddau a'u gwerthoedd cynhenid.

Mae'r Athro Jones yn galw'r ymagwedd newydd hon at ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial yn EVE (Everyone Virtuoso Everyday), sy'n canolbwyntio ar ddatblygu technoleg deallusrwydd artiffisial ar gyfer rhyngweithiadau ystyrlon a medrus, mewn modd tebyg i gerddor meistrolgar yn ymroi’n llwyr i’w offeryn. Fodd bynnag, yn hytrach na throi pawb yn gerddor dan ddylanwad deallusrwydd artiffisial, bydd gwaith yr Athro Jones yn ceisio darparu dulliau y gall pobl eu defnyddio yn eu bywydau pob dydd.

Mae'r Athro Jones yn gobeithio cyflawni hyn drwy gynnwys amrywiaeth ehangach o bobl wrth lunio deallusrwydd artiffisial. Esboniodd:  “Mae diffyg amrywiaeth ymhlith y rhai hynny sy'n cyfrannu at ddychmygu dyfodol technoleg deallusrwydd artiffisial wrth i ddynion technolegol eu bryd ('tech bros') reoli'r sgwrs yn llwyr. Mewn cyferbyniad, ar y cyd â'm tîm, bydda i'n gweithio'n ddwys gyda phobl nad ydyn nhw'n ymwneud â darganfod ac arloesi ym maes deallusrwydd artiffisial fel arfer – pobl sy'n cael llai o gyfleoedd cymdeithasol-economaidd yn y DU a'r rhai hynny mewn cymunedau yn Ne'r Byd megis yr aneddiadau anffurfiol yn India, Kenya, Brasil a De Affrica.” 

Y nod yw cynnwys eu profiadau bywyd yn y broses cynllunio a datblygu. Caiff y broses hon ei chyfoethogi ymhellach drwy gynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid o feysydd technoleg, darparu gwasanaethau a phartneriaid creadigol, gan gynnwys Microsoft Research, ymchwil a datblygu'r BBC, y GIG, IBM, HSBC a Chyngor Abertawe. Wrth wneud hynny, y nod yw darganfod ffyrdd newydd o ennyn diddordeb pobl ym mhobman, waeth beth fo’u cyd-destunau a'u cyfleoedd, mewn systemau deallusrwydd artiffisial.

Meddai'r Athro Jones: “Mae'n bleser ac yn fraint i mi dderbyn y gymrodoriaeth hon. Er bod llawer o bobl yn meddwl y bydd deallusrwydd artiffisial yn datblygu’n rhy gyflym ac yn rhy glyfar i bobl, rwy'n ffyddiog bod angen amserol a brys i feddwl am sut i ehangu, dathlu a galluogi ‘deallusrwydd naturiol’ – pobl gyffredin – yn hytrach na'u disodli â deallusrwydd artiffisial.”

Croesawodd Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor, y newyddion am y gymrodoriaeth: “Mae'r gymrodoriaeth uchel ei bri hon yn cydnabod rhagoriaeth yr Athro Jones o ran ymchwil ac arloesi ym maes deallusrwydd artiffisial sy'n canolbwyntio ar bobl, yn ogystal â'r cyfle i arwain newid cadarnhaol drwy gynllunio ein dyfodol digidol ni i gyd mewn modd cynhwysol.  Mae'n adeiladu ar hanes ardderchog Prifysgol Abertawe o ddarparu atebion trawsnewidiol i broblemau yn y byd go iawn.”

Rhannu'r stori