Dŵr yn arllwys allan o ben cawod metelaidd ynghlwm wrth wal teils

Gallai mwynhau cawod fwy pwerus yn y bore eich helpu i leihau allyriadau carbon eich aelwyd, yn ôl ymchwilwyr.

Mae cawodydd yn defnyddio llawer o ddŵr ond hefyd yn cynnwys cost carbon sylweddol oherwydd yr ynni y mae'n ei gymryd i gynhesu'r dŵr ar gyfer ein hymolchi dyddiol. 

Mae astudiaeth wedi darganfod bod cawodydd mwy pwerus yn ein galluogi i gyrraedd ein nod ymolchi'n gyflymach, gan arwain at gawodydd byrrach - yn enwedig os bydd amserydd yn cael ei ddefnyddio hefyd. 

Mae'r seicolegydd amgylcheddol yr Athro Ian Walker wedi bod yn ymchwilio i effaith pwysedd dŵr ar ein harferion  gyda Dr Pablo Pereira-Doel, o Sefydliad Cynaliadwyedd Prifysgol Surrey a James Daly, Rheolwr Cynaliadwyedd Prifysgol Bryste. 

Mae eu canfyddiadau bellach wedi cael eu cyhoeddi mewn dogfen friffio yn OFS Preprints, safle a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu canfyddiadau newydd am faterion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn. 

Ar gyfer eu hastudiaeth, rhoddwyd synwyryddion mewn 290 o gawodydd ar gampws Prifysgol Surrey gan olrhain yn gudd hyd cawodydd am 39 wythnos, gan gasglu data mwy na 86,000 o gawodydd unigol. 

Darganfuwyd mai 6.7 munud oedd hyd cyfartalog cawod , roedd y canolrif yn 5.7 ac roedd hanner rhwng 3.3. ac 8.8 munud. Roedd gwybod am ba hyd y rhedwyd y dŵr yn ystod pob cawod, a beth oedd cyfradd llif y dŵr, wedi galluogi'r tîm i amcangyfrif yn ddibynadwy faint o ddŵr a gafodd ei ddefnyddio bob tro y byddai rhywun yn cael cawod. 

Esboniodd yr Athro Walker, pennaeth yr Ysgol Seicoleg, fod perthynas negyddol amlwg rhwng pwysedd dŵr a'i ddefnydd. 

Meddai: "Ar gyfer unrhyw gyfradd lif, ymddengys fod cawodydd mwy pwerus yn defnyddio llai o ddŵr yn gyffredinol. Felly efallai bydd cawod hyfryd sy'n dwysbigo'n 'well' i'r amgylchedd na diferion gwan. 

"Mae'r ymchwil hon yn awgrymu bod pobl yn diffodd y gawod pan fyddan nhw wedi cyrraedd ymdeimlad o fodlonrwydd, nid pan fyddan nhw wedi cwblhau set benodol o weithredoedd. Mae hon yn ddealltwriaeth newydd a allai fod yn hynod bwysig." 

Roedd y synwyryddion yn cynnwys amseryddion a oedd yn dechrau'n awtomatig pan fyddai llif y dŵr yn dechrau. I weld a oedd yr amseryddion yn gwneud gwahaniaeth, roedd yr amserydd wedi'i guddio yn hanner y cawodydd.

Ychwanegodd: "Un o fanteision amseryddion yw eu bod yn rhwystro cawodydd rhag mynd yn hwy ac yn hwy wrth i'r wythnosau fynd heibio. 

"Drwy roi'r ddwy effaith ynghyd, gwelwyd y defnydd o ddŵr ar gyfartaledd yn newid o bron 61 litr y gawod (pwysedd isel, dim amserydd) i o dan 17 litr y gawod (pwysedd uchel, amserydd a dŵr poeth), sy'n golygu arbedion carbon sylweddol. 

"Yn yr arbrawf hwn yn unig, roedd y 290 o gawodydd hynny wedi treulio 4.4 miliwn litr o ddŵr poeth, a thua 15 tunnell o CO2e. Mae'r ynni sy'n rhan o hyn yn anhygoel pan fyddwch chi'n dechrau meddwl am hyn ar raddfa genedlaethol.”

 

Rhannu'r stori