Nyrsys mewn iwnifform ar ward yn edrych ar siartiau ger cabinet cyffuriau

Mae Prifysgol Abertawe'n lansio gradd hyblyg newydd a fydd yn helpu nyrsys y dyfodol i gydbwyso eu hastudiaethau â gofynion eu bywydau bob dydd.

Mae'r cwrs, a grëwyd gan y GIG Cymru, yn cynnwys wythnos astudio fyrrach, sy'n cyd-fynd ag amserau tymor yr ysgol a bydd yn cydlynu lleoliadau gwaith o amgylch ymrwymiadau personol.   Yn ogystal, ariennir y ffioedd llawn drwy fwrsariaeth y GIG. 

Mae'r cwrs newydd yn cael ei lansio i fynd i'r afael â phrinder yn y GIG ac annog pobl â phrofiad bywyd i ymuno â'r proffesiwn nyrsio drwy agor y drws i'r rhai hynny a fyddai fel arall yn methu ymrwymo i astudio.  

Mae'r Brifysgol yn cydnabod cryfderau'r rhai hynny sy'n ceisio cydbwyso sawl peth o ddydd i ddydd a'r angen i ddarparu mwy o hyblygrwydd o ran astudio. 

Credir y bydd y cwrs yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â phrofiad mewn rolau gofalu, er enghraifft rhieni a gofalwyr, sydd am gymryd y cam cyntaf tuag at yrfa hynod wobrwyol wrth gydbwyso ymrwymiadau teuluol.  

Dywed Jessica Bain, myfyriwr nyrsio, fod ei phrofiad o astudio yn Abertawe wedi bod yn gadarnhaol iawn: "Rwy'n dwlu ar ba mor gyfeillgar y mae'r cwrs nyrsio. Rwyf wir yn meddwl y gallwch ddod i adnabod y staff a'ch cyd-fyfyrwyr ar y cwrs hwn. ""Mae'r darlithwyr bob amser yn angerddol am yr hyn y mae'n nhw'n ei addysgu, sy'n gwneud i mi deimlo'n fwy angerddol hefyd. 

"Mae hefyd yn wych cael eich addysgu gan staff y mae ganddyn nhw lawer o brofiad clinigol, wrth iddyn nhw rannu hanesion a phrofiadau fel rhan o'u haddysgu." 

Meddai'r Athro Jayne Cutter, pennaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rwyf yn edrych ymlaen at groesawu'r myfyrwyr cyntaf ar y rhaglen newydd gyffrous hon a fydd yn cynnig cyfle i bobl na fyddai fel arall yn cael y cyfle i astudio am radd nyrsio.

"Rwyf wedi bod yn nyrs gofrestredig am lawer o flynyddoedd a gallaf wir ddweud ei bod hi wedi bod yn fraint cael bod yn aelod o'r proffesiwn hynod wobrwyol hwn. Bydd y rhaglen hon yn galluogi'r rhai hynny nad ydynt yn gallu astudio'n amser llawn i gyflawni eu breuddwydion a dechrau gweithio tuag at yrfa lle gallan nhw wneud byd o wahaniaeth i'r rhai hynny yn eu gofal a chael boddhad mawr."

 Mae gan Brifysgol Abertawe hanes balch o hyfforddi'r gweithlu nyrsio ac mae'n cael ei chydnabod yn un o'r 10 prifysgol orau am astudio nyrsio yn y DU gan The Times Good University Guide 2024. 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am nyrsio yn Abertawe neu e-bostiwch study@abertawe.ac.uk

 

Rhannu'r stori