Ymchwilwyr o grŵp yr Athro Satish Patil yn Sefydliad Gwyddoniaeth India (IISc) yn Bangalore yn gosod micro-grid mewn ysgol yn Tamilnadu, India, fel rhan o brosiect SUNRISE Prifysgol Abertawe.

Fel y'i gwelir yn y llun, mae prosiect SUNRISE Abertawe yn helpu i ddatblygu technolegau solar a'u rhoi ar waith i wella mynediad at ynni yn India wledig, rhywbeth y bydd TEA at SUNRISE yn adeiladu arno i gefnogi gwledydd yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel.

Mae cydweithrediad newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n ceisio helpu gwledydd yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel i gynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy'n lleol ar raddfa fwy.

Gan adeiladu ar rwydwaith SUNRISE y Brifysgol, mae prosiect TEA at SUNRISE yn gydweithrediad rhwng prifysgolion a busnesau ledled y DU, Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel.

Mae'r prosiect yn rhan o blatfform TEA (Trawsnewid Mynediad at Ynni) a ariennir gan lywodraeth y DU, sy'n cefnogi'r technolegau, y modelau busnes a'r sgiliau angenrheidiol i drawsnewid i ynni glân mewn modd cynhwysol.

Mae TEA at SUNRISE yn ategu rhagamcaniad yr IEA (Asiantaeth Ynni Ryngwladol) y caiff 125 gigawatt o fodiwlau ffotofoltäig eu gosod yn Affrica cyn 2030.

Bydd y prosiect yn adeiladu ar y perthnasoedd a sefydlwyd gan SUNRISE, gan ymestyn y tu hwnt i Affrica ac India i nodi manteision y genhedlaeth nesaf o dechnolegau solar ledled De'r Byd. 

Gyda digonedd o ynni solar a marchnadoedd lleol mawr, bydd TEA at SUNRISE yn archwilio gallu gwledydd yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel i greu canolfannau gweithgynhyrchu ar gyfer modiwlau ffotofoltäig effeithlon a rhad.

Meddai Iain Meager, Cyfarwyddwr Arloesi yn yr Ymddiriedolaeth Garbon: “Mae cydweithredu'n hollbwysig er mwyn cyflymu'r broses o drawsnewid i ynni glân mewn modd teg a chynhwysol. Drwy gydweithio â rhanddeiliaid lleol yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel, bydd TEA at SUNRISE yn hybu'r dulliau cyfnewid gwybodaeth a dysgu sy'n angenrheidiol er mwyn cyflymu'r broses o weithgynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig cynaliadwy ar raddfa fwy'n lleol. Yn ogystal â helpu i feithrin datblygiad economaidd, bydd hyn hefyd yn lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu ynni ffotofoltäig.”

Er bod ynni ffotofoltäig yn un o'r technolegau ynni sy'n tyfu gyflymaf yn fyd-eang, mae gwendidau gan ddeunyddiau ffotofoltäig silicon, sy'n teyrnasu yn y farchnad ar hyn o bryd. 

Mae'r dull gweithgynhyrchu'n galw am fuddsoddiad cychwynnol sylweddol a defnydd helaeth o ddeunyddiau ac ynni critigol. Mae hefyd yn arwain at wastraff sylweddol pan gaiff ei ddefnyddio ar raddfa fawr.

Ar ben hynny, ni chaiff gweithgynhyrchu modiwlau silicon ei ddosbarthu'n fyd-eang ac mae’n gysylltiedig â phroblemau amgylcheddol, economaidd a moesegol sy'n ymwneud â phrosesau mwyngloddio a defnyddio trydan a gynhyrchir gan lo.

Mewn ymateb i'r heriau hyn, bydd TEA at SUNRISE yn gosod pwyslais cryf ar sicrhau y caiff technolegau eu dylunio ar gyfer economi gylchol i leihau gwastraff a defnyddio llai o ddeunyddiau critigol.

Meddai arweinydd y prosiect, Dr Mark Spratt, o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae TEA at SUNRISE yn adeiladu ar rwydwaith hynod lwyddiannus SUNRISE, gan ehangu datblygiad y genhedlaeth nesaf o ddeunyddiau ffotofoltäig yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel. Wrth drawsnewid yn deg i ynni adnewyddadwy, gall y technolegau newydd hyn wneud cyfraniad hollbwysig at sicrhau y darperir ynni mewn modd cyfiawn, heb y problemau amgylcheddol a moesegol sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig ar hyn o bryd.”

Mae'r genhedlaeth nesaf hon o ddeunyddiau solar hefyd yn cynnig cyfle unigryw i'w dylunio fel y bydd yn hawdd eu hailddefnyddio a'u hailweithgynhyrchu o'r cychwyn cyntaf, gan y bydd gweithgynhyrchu'n lleol yn lleihau costau logisteg yn ogystal â chreu swyddi a defnyddio ffynonellau ynni â llai o garbon.

Rhannu'r stori