Golwg danddwr ar forwellt yn tyfu ar wely'r môr. Credyd: Lewis M Jefferies.

Credyd: Lewis M Jefferies.

Mewn astudiaeth newydd, mae tîm rhyngwladol o academyddion wedi nodi'r cwestiynau pwysicaf y mae'n rhaid eu hateb er mwyn datblygu gwaith cadwraeth ac adfer dolydd morwellt yn Ewrop.

Mae morwellt yn chwarae rôl hollbwysig yn ein cefnforoedd drwy storio carbon ar wely'r môr, gan wella bioamrywiaeth, hidlo dŵr a lleihau erydu arfordirol ond er gwaethaf eu harwyddocâd ecolegol, maen nhw wedi wynebu dirywiad sylweddol ar draws y cyfandir.

Mae mentrau newydd ar waith i adfywio'r dolydd hyn, ond mae diffyg gwybodaeth yn atal cynnydd.

I gydnabod hyn, mae panel amrywiol o 35 o wyddonwyr o 18 cenedl yn Ewrop wedi dod ynghyd i flaenoriaethu anghenion ymchwil brys ymhlith cronfeydd ymchwil cyfyngedig.

Arweinir y gwaith hwn gan Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe a Dr Lina Mtwana Nordlund o Brifysgol Uppsala, ac mae wedi cael ei gefnogi drwy brosiect a ariennir gan Horizon 2020 sef EuroSea ar y cyd â'r Global Ocean Observing System, rhaglen a arweinir gan Gomisiwn Eigioneg Rhynglywodraethol (IOC) UNESCO.

Casglwyd bron 300 o gwestiynau gan ymchwilwyr a gyflwynwyd gan arbenigwyr morwellt o brifysgolion Ewrop, cyrff llywodraethol, diwydiant a sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol.

O hyn, dewisodd y panel y 100 cwestiwn gorau yn seiliedig ar bwysigrwydd.

Fe'i cyhoeddwyd fel rhan o astudiaeth yn Plants, People, Planet, cyfnodolyn blaenllaw'r New Phytologist Foundation, roedd y cwestiynau'n dangos sut mae gwyddonwyr morol ar draws Ewrop yn gweld y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn ein cefnforoedd cymaint ag ar y tir.

Meddai Dr Unsworth, Prif Swyddog Gwyddonol yr elusen cadwraeth forol Project Seagrass: “Mae ein papur yn pwysleisio'r angen i ganolbwyntio'n gynyddol ar ymdrechion ymchwil forol ar gadwraeth ac adfer, sy'n hollbwysig er mwyn nodi atebion cymhwysol y gellir eu datblygu i wrthdroi cyflwr dirywiol moroedd arfordirol yn Ewrop.”

Mae hefyd yn amlygu anghysondebau rhanbarthol o ran cyllid gwyddonol, gan ategu'r angen i gael mwy o ymdrechion ymchwil ar forwellt ar y cyd ac yn rhyngddisgyblaethol.

Meddai Dr Nordlund: “Fel cymuned ymchwil, credwn fod ateb y 100 cwestiwn hyn yn gosod morwelltoedd Ewrop ar lwybr adfer ac yn cyflymu'r gwaith o adfer morwelltoedd.”

Yn ogystal â hynny, dengys yr astudiaeth sut gall ymarfer rhyngwladol cynhwysol gael ei ddefnyddio i nodi cwestiynau ymchwil amrywiol.

Meddai'r panelydd arweiniol Dr Sieglind Wallner-Hahn o Brifysgol Uppsala: “Un o gamau mwyaf arwyddocaol yr astudiaeth hon yw lefel uchel cynwysoldeb partneriaid o bob cornel o arfordir Ewrop; yr her yw sicrhau bod y fath bartneriaid yn gallu chwarae rhan wrth ateb y cwestiynau hyn a sicrhau dyfodol ar gyfer eu dolydd morwellt lleol."

Ychwanegodd y panelydd yr Athro Jim Bull o Brifysgol Abertawe: “Mae fy ngwaith yn cael ei arwain gan atebion ac mae'n rhaid mynd i'r afael â'r heriau y mae ecolegwyr morol a chadwraethwyr yn eu hwynebu ar draws Ewrop. Cryfder y cwestiynau hyn yw eu cynnwys rhyngddisgyblaethol a derbyn yr angen i ddod â gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol ynghyd i ddod o hyd i'r wybodaeth i adfer ein moroedd Ewropeaidd."

Rhannu'r stori