Y rhestr hir

Mae'r rhestr hir ryngwladol ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi.

Gydag awduron sy'n hanu o'r DU, Nigeria, Trinidad a Tobago, yr Unol Daleithiau, Canada a Hong Kong, mae'r rhestr hir ryngwladol hon eleni'n cynnwys naw teitl gan gyhoeddwyr annibynnol. Y rhestr hir o 12 llyfr yw:

  • A Spell of Good Things gan Ayòbámi Adébáyò (Canongate Books) – nofel (Nigeria)
  • Small Worlds gan Caleb Azumah Nelson (Viking, Penguin Random House UK) – nofel (y DU/Ghana)
  • The Glutton gan A.K. Blakemore (Granta) – nofel (Lloegr, y DU)
  • Bright Fear gan Mary Jean Chan (Faber & Faber) – casgliad o farddoniaeth (Hong Kong)
  • Penance gan Eliza Clark (Faber & Faber) – nofel (Lloegr, y DU)
  • The Coiled Serpent gan Camilla Grudova (Atlantic Books) – casgliad o straeon byrion (Canada)
  • Hungry Ghosts gan Kevin Jared Hosein (Bloomsbury Publishing UK/Ecco, HarperCollins US) – nofel (Trinidad a Tobago)
  • Local Fires gan Joshua Jones (Parthian Books) – casgliad o straeon byrion (Cymru, y DU)
  • Biography of X gan Catherine Lacey (Granta) – nofel (yr Unol Daleithiau)
  • Close to Home gan Michael Magee (Hamish Hamilton, Penguin Random House UK) – nofel (Gogledd Iwerddon, y DU)
  • Open Up gan Thomas Morris (Faber & Faber) – casgliad o straeon byrion (Cymru, y DU)
  • Divisible by Itself and One gan Kae Tempest (Picador, Pan Macmillan) – casgliad o farddoniaeth (Lloegr, y DU)

Mae'r rhestr hir eleni'n cynnwys saith nofel, tri chasgliad o straeon byrion a dau gasgliad o farddoniaeth ac mae'n croesi cyfandiroedd a chyfnodau o amser i archwilio themâu adfyd, hunaniaeth, cartref a chariad.

Mae tri llenor sydd wedi cystadlu am Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn y gorffennol yn dychwelyd i'r rhestr hir eleni: mae Ayòbámi Adébáyò, nofelydd o Nigeria (a fu ar y rhestr hir yn 2018 am ei nofel gyntaf, Stay With Me) a Caleb Azumah Nelson (a gyrhaeddodd y rhestr fer am Open Water yn 2022) yn ystyried cysylltiadau teuluol bregus yn eu llyfrau a enwebir ar gyfer 2024. Yn A Spell of Good Things, ei nofel wefreiddiol, mae Adébáyò yn mynd â darllenwyr i Nigeria yn yr oes fodern, i adrodd stori dragwyddol dau deulu sy'n cael eu dal rhwng y rhaniadau mawr mewn cymdeithas, ac mae Nelson, awdur Prydeinig-Ghanaidd, yn pontio'r bwlch rhwng Ghana a Llundain, i adrodd stori gymhleth am dad a mab dros dri haf yn Small Worlds, ei nofel bersonol iawn. Caiff Catherine Lacey, awdur o'r Unol Daleithiau (a gyrhaeddodd y rhestr fer yn 2021 am Pew), ei chydnabod eleni am Biography of X, nofel epig egnïol sy'n pontio genres ac yn plymio i ddyfnderoedd galar, celfyddyd a chariad. Mae’n cyflwyno cymeriad bythgofiadwy sy'n dangos i ni ffaeledigrwydd y straeon rydym yn eu saernïo i ni ein hunain.

Mae llenorion eraill yn ymrafael ag ysbrydion y gorffennol ac yn ceisio deall adegau treisgar mewn hanes. Mae Kevin Jared Hosein, nofelydd o'r Caribï, yn dod â chanol trefedigaeth Trinidad yn y 1940au'n fyw yn Hungry Ghosts, ei nofel hudol lle mae rhaniadau rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd yn arwain at gyfres o ddigwyddiadau andwyol i ddau deulu, ac mae A.K. Blakemore, awdur o Brydain, wedi cyrraedd y rhestr fer am The Glutton, ei nofel wefreiddiol sy'n mynd â hi i Ffrainc yn y 18fed ganrif i drafod y Chwyldro Ffrengig drwy lygaid gwerinwr go iawn sydd bellach yn atyniad mewn sioe pethau hynod, gan gael ei symbylu i weithredu'n fyrbwyll er mwyn goroesi.

Mae'r ddwy nofel olaf ar y rhestr yn archwilio bywyd mewn trefi bach: yn Penance, mae Eliza Clark, a aned yn Newcastle, yn croesi'r ffiniau rhwng ffaith a ffug mewn modd anesmwythol, wrth i un o nofelwyr Prydeinig ifanc gorau Granta 2023 adrodd stori iasoer llofruddiaeth ymysg arddegwyr, ar drothwy'r bleidlais hanesyddol ar Brexit; mae Michael Magee o Belfast – un o ddau awdur newydd yn unig ar y rhestr eleni – yn llunio darlun o ymddieithrio yn Belfast yn dilyn y gwrthdaro arfog yn Close to Home, lle mae gweithredoedd tyngedfennol un dyn yn animeiddio'r stori ddirdynnol hon sy'n ystyried gwrywdod, dosbarth ac ansicrwydd.

Mae dau o'r tri chasgliad o straeon byrion sy'n cystadlu am y wobr eleni wedi'u hysgrifennu gan awduron o Gymru. Caiff Joshua Jones – yr ail newydd-ddyfodiad ar y rhestr hir – ei gydnabod am Local Fires, sydd wedi'i ysbrydoli gan bobl go iawn a digwyddiadau go iawn yn ei dref frodorol, Llanelli, Cymru, ac mae Thomas Morris – un arall o nofelwyr Prydeinig ifanc gorau Granta 2023 – wedi cael ei ddathlu am Open Up, pum stori hiraethus o dyner, arloesol a disglair am ddatgysylltiad. Y casgliad olaf o straeon byrion ar y rhestr yw The Coiled Serpent gan Camilla Grudova, a aned yng Nghanada ond sy'n byw yng Nghaeredin – y trydydd un o nofelwyr Prydeinig ifanc gorau Granta 2023 a enwebwyd. Drwy gyfres o straeon swrrealaidd, mae'n amlygu hurtrwydd syniadau cyfoes am waith, Prydeindod a chreu celf.

Eleni, mae dau fardd wedi cyrraedd y rhestr hir am eu casgliadau o farddoniaeth: cydnabyddir Kae Tempest – bardd, llenor, cyfansoddwr caneuon, perfformiwr ac artist recordio – am Divisible by Itself and One, sy'n trafod y cwestiynau mawr a'r cyflyrau emosiynol rydym yn byw ynddynt ac yn eu creu, a hynny mewn modd pwerus; ac mae Mary Jean Chan yn cystadlu am y wobr gyda Bright Fear, casgliad eofn sy’n archwilio themâu hunaniaeth, amlieithrwydd ac etifeddiaeth ôl-drefedigaethol.

Caiff y rhestr hir bellach ei lleihau i chwe theitl ar y rhestr fer gan banel trawiadol o chwe beirniad wedi'i gadeirio gan awdur clodfawr 23 o lyfrau – gan gynnwys un sydd ar ddod, Never Never Land  – a chyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth uchel ei bri Jaipur, Namita Gokhale, ochr yn ochr â Jon Gower, awdur arobryn o Gymru a Darlithydd Ysgrifennu Creadigol  ym Mhrifysgol Abertawe; Seán Hewitt, enillydd Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig yn 2022 ac Athro Cynorthwyol yng Ngholeg y Drindod Dulyn; Julia Wheeler, cyn-ohebydd y BBC am y Gwlff ac awdur  Telling Tales: An Oral History of Dubai; a Tice Cin, artist rhyngddisgyblaethol ac awdur Keeping the House, a fu ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2022. 

Mae'r wobr fyd-eang hon, sy'n werth £20,000, yn cydnabod llenorion eithriadol o dalentog 39 oed neu'n iau, gan ddathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu. Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a aned yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae'n dwyn ei enw er mwyn cefnogi llenorion presennol, meithrin doniau’r dyfodol a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.

Dyfarnwyd y wobr y llynedd i Arinze Ifeakandu am God's Children Are Little Broken Things (Orion, Weidenfeld & Nicolson), ei gasgliad cyntaf o straeon byrion.

Meddai Di Speirs, Cadeirydd y Beirniaid yn 2023: “Roedden ni'n unfrydol wrth ganmol ac edmygu'r casgliad gwefreiddiol hwn o naw stori. Mae aeddfedrwydd llyfr cyntaf Arinze Ifeakandu yn disgleirio, mae'r ysgrifennu'n feiddgar, yn wreiddiol ac yn heriol, ond mae'n barod bob amser i oedi a galluogi cymeriadau a sefyllfaoedd i ddatblygu a newid, fel bod y straeon hirach bron yn nofelau ynddyn nhw eu hunain.  Ac yntau'n fyfyrdod lliwgar ar fywyd a chariad cwiar yn Nigeria – y cyfyngiadau, y peryglon a'r dyngarwch – dyma gasgliad roedden ni am ei wasgu yn nwylo llawer o ddarllenwyr ledled y byd. Yn y diwedd roedden ni’n awchu i wybod beth bydd Arinze Ifeakandu yn ei ysgrifennu nesaf.”

Mae'r enillwyr blaenorol hefyd yn cynnwys Patricia Lockwood, Max Porter, Raven Leilani, Bryan Washington, Guy Gunaratne, a Kayo Chingonyi.

Caiff rhestr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe ei chyhoeddi ddydd Iau 21 Mawrth. Cynhelir seremoni'r enillydd yn Abertawe nos Iau 16 Mai, yn dilyn Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ddydd Mawrth 14 Mai.

Darllenwch fwy am yr awduron 

Dysgwch fwy am y beirniaid 

Rhannu'r stori