Llun grŵp o'r myfyrwyr a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.

Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cael cyfle i ddatblygu eu syniadau busnes arloesol trwy ei Chystadleuaeth Big Pitch, a noddir gan Santander Universities.

Wedi'i chynnal gan Dîm Mentergarwch y Brifysgol, mae’r gystadleuaeth Big Pitch yn cynnig cyllid busnes, mentora, mynediad i rwydweithiau, lleoedd ar rhaglenni cyflymu a mwy i entrepreneuriaid. 

Yn ystod y gystadleuaeth ddiweddaraf a gynhaliwyd y mis diwethaf, cyflwynodd 15 o fyfyrwyr eu busnesau, o ddanteithion iach ac ategolion i gŵn i wasanaethau glanhau a leolir yn Abertawe. 

Roedd y panel o feirniaid o fri eleni yn cynnwys Dr Ben Reynolds, Cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe a Sylfaenydd The Urban Foundry, Kim Mamhende, Pennaeth Staff yn y Centre for African Entrepreneurship a Chris James, Entrepreneur Preswyl Mentergarwch Myfyrwyr. 

Dyfarnodd y panel:

  • £7,250 i wyth busnes
  • Chwe lle ar gyrsiau bŵt camp
  • Cyfleoedd masnachu ledled Abertawe i ddau fyfyriwr
  • Deg mentor o blith cyn-fyfyrwyr y Brifysgol

Ochr yn ochr â'r Tîm Mentergarwch, dyfarnodd rhaglen Hwb Gyrfaoedd Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe (SEA) £12,500 ychwanegol i 11 o fyfyrwyr.

Dywedodd Rheolwr Ymgynghoriaeth Hwb Gyrfaoedd, Zdravka Kamenova: "Mewn partneriaeth â'r tîm Mentergarwch, mae rhaglen Hwb Gyrfaoedd SEA yn falch o rymuso myfyrwyr o gefndiroedd a thangynrychiolir a'r rhai sy'n wynebu anfanteision economaidd-gymdeithasol.

"Mae'r cyllid a gynigir yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi dyheadau amrywiol a chreu cyfleoedd cynhwysol ar gyfer twf gyrfa a dyfodol llwyddiannus gan alluogi myfyrwyr i gyflawni eu dyheadau gyrfa hirdymor penodol."

Gan fyfyrio ar eu profiad, nododd 76% o gyfranogwyr y Big Pitch fod y digwyddiad yn 'ardderchog' a dywedodd pawb a oedd yn bresennol y byddent yn ei argymell i ffrind.

Dywedodd un o gyfranogwyr y Big Pitch, Geraint Jones: “Roedd digwyddiad Big Pitch Prifysgol Abertawe yn llawn ysbrydoliaeth, o lyfrau i gogyddion, i glustiau a choed, roedd yn cynnwys popeth - roedd gan bawb syniadau anhygoel! Mae'n gyffrous ac yn hyfryd clywed rhai o'r syniadau arloesol gan israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig.

"Rwy'n hynod ddiolchgar am gefnogaeth Tîm Mentergarwch Prifysgol Abertawe ac edrychaf ymlaen at rannu fy nghynnydd gyda nhw dros y blynyddoedd i ddod!"

Cewch ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan y Tîm Mentergarwch.

Rhannu'r stori