A gavel on a table

Mae grŵp o academyddion o brifysgolion Cymru, ynghyd â swyddogion prawf presennol a chyn-swyddogion prawf, wedi cyhoeddi syniadau ar ddyfodol y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru.  

Daw hyn ar ôl i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyhoeddi ei adroddiad yn ystod yr wythnosau diwethaf yn argymell datganoli’r gwasanaeth prawf i Gymru.

Mae Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf, sy’n rhan o Ganolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru (WCCSJ) sy’n cynnwys academyddion o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe, wedi nodi tystiolaeth a ffyrdd o weithio ar gyfer datblygu gwasanaeth prawf datganoledig yng Nghymru.

Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys meddwl am wasanaeth prawf annibynnol newydd sy'n canolbwyntio ar y berthynas oruchwyliol rhwng y swyddog prawf a'r sawl sydd ar brawf, gwell defnydd o ymyriadau ar sail tystiolaeth, adnoddau lleol, a phartneriaethau cryf.

Mae'r grŵp hefyd yn tynnu sylw at rôl bwysig y gymuned a dedfrydau cymunedol, i hyrwyddo adsefydlu effeithiol a diogelwch dioddefwyr.

Gall darparu gwasanaeth prawf yn effeithiol, meddai’r grŵp, arwain at garcharu llai costus, gostyngiadau mewn troseddu, a chymunedau mwy diogel gyda llai o ddioddefwyr troseddau.

Dywedodd darlithydd Troseddeg Prifysgol Abertawe a chyn uwch swyddog prawf, Ella Rabaiotti, sy’n cynnull Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf: “Er ein bod yn cydnabod bod mwy o darfu o fewn y gwasanaeth prawf ymhell o fod yn ddelfrydol, credwn fod angen dull cryfach seiliedig ar dystiolaeth i waith prawf i helpu i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau gwirioneddol yng nghanlyniadau cyfiawnder troseddol Cymru.

“Mater i lunwyr polisi fydd penderfynu ar ffurf Gwasanaeth Prawf Cymreig mewn ymgynghoriad priodol â’r rhanddeiliaid priodol, ond mae dysgu sylweddol yn cael ei gynnig yn ein cyhoeddiad i wella diogelwch cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol i holl gymunedau Cymru o bosibl.”

Wrth gyflwyno eu cynigion i Lywodraeth Cymru, mae’r grŵp arbenigol annibynnol wedi tynnu ar ddegawdau o ymchwil a phrofiad ym maes ymarfer a llywodraethu prawf. Nod eu gwaith yw cyfrannu at gynlluniau polisi cyfiawnder Llywodraeth Cymru, yn dilyn casgliadau Comisiwn Thomas a ganfu nad yw’r system cyfiawnder troseddol bresennol yn gwasanaethu pobl Cymru. Maen nhw'n dweud bod hyn bellach wedi'i atgyfnerthu ymhellach gan adroddiad newydd y Comisiwn Annibynnol.

Daw barn y grŵp Cymreig yn dilyn pryderon gan y Prif Arolygydd Prawf sy’n gadael, Justin Russell a ddywedodd fod safonau prawf wedi ‘gwaethygu’ yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac mae canfyddiadau diweddaraf Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud bod cyfradd carcharu Cymru yn parhau i fod yn uwch nag unrhyw ran arall o'r DU.

Mae Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf yn bwriadu defnyddio eu cyhoeddiadau i gynorthwyo sgyrsiau ar ddatganoli’r gwasanaeth prawf yng Nghymru, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd pellach ar gyfer ymchwil a dealltwriaeth i wasanaethau prawf effeithiol.

Cair rhagor o wybodaeth yma am waith Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf a Chanolfan Troseddu a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru. 

Gellir gweld copi llawn o'r adroddiad yma. 

Rhannu'r stori