Gwesteion a siaradwyr: denodd y digwyddiad, a gynhelir bob blwyddyn, bron 200 o westeion i'r lleoliad ym Mhafiliwn Patti yn Abertawe, lle gwnaethant glywed amrywiaeth o siaradwyr yn adrodd straeon sy'n ysbrydoli.

Gwesteion a siaradwyr: denodd y digwyddiad, a gynhelir bob blwyddyn, bron 200 o westeion i'r lleoliad ym Mhafiliwn Patti yn Abertawe, lle gwnaethant glywed amrywiaeth o siaradwyr yn adrodd straeon sy'n ysbrydoli.

Roedd y sbotolau ar fenywod sy'n ysbrydoli mewn cinio mawreddog yn Abertawe a drefnwyd gan Technocamps, rhaglen sgiliau Cymru gyfan, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024.

Denodd y digwyddiad, a gynhelir bob blwyddyn, bron 200 o westeion i'r lleoliad ym Mhafiliwn Patti yn Abertawe, lle gwnaethant glywed amrywiaeth o siaradwyr yn adrodd straeon sy'n ysbrydoli.

I ddechrau'r noson, trafododd Anne Jessopp CBE ei phrofiad fel y fenyw gyntaf i fod yn brif weithredwr y Bathdy Brenhinol. Cyflwynodd Dr Emma Hayhurst, prif weithredwr Llusern Scientific, ddeg o wersi bywyd hynod werthfawr.

Siaradodd Bethan Jenkins am ei gwaith fel darlithydd mewn dulliau fforensig digidol a seiberddiogelwch ym Mhrifysgol De Cymru. Cyn hyn, bu'n gweithio fel arbenigwr ansawdd fforensig ac archwiliwr fforensig digidol yn Heddlu Gwent. 

Yna clywodd y gwesteion gan Anna Petrusenko, myfyriwr o Goleg Gŵyr, a rannodd ei stori anhygoel am symud i Abertawe o'i thref enedigol yn Wcráin, a hynny mewn modd taer iawn. Enwyd Anna yn fyfyriwr y flwyddyn 2023 gan STEM Cymru, mae wedi ennill Olympiadau rhyngwladol ac yn ddiweddar cyfarfu â'r Ysgrifennydd Hillary Clinton a'r Arlywydd Bill Clinton yn ystod eu hymweliad â Phrifysgol Abertawe.

Eleni dathlwyd pen-blwydd y digwyddiad yn 24 oed. Dros y blynyddoedd, mae wedi bod yn elfen reolaidd o galendr cymdeithasol Cymru, wrth i westeion deithio o bob rhan o'r wlad i ddod.

Mae Technocamps yn rhaglen allgymorth mewn ysgolion, cymunedau a byd diwydiant ledled Cymru. Prifysgol Abertawe yw cartref y rhaglen ond mae ganddi hyb ym mhob prifysgol yng Nghymru.

Mae'n darparu gweithdai ymarferol i ysgolion cynradd ac uwchradd, hyfforddiant datblygiad proffesiynol i athrawon, a chyfleoedd i oedolion wella eu sgiliau digidol.

Ei chylch gorchwyl craidd ar gyfer ysgolion yw ymgysylltu â grwpiau penodol o bobl ifanc – yn enwedig merched a'r rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell – sydd wedi colli diddordeb mewn pynciau STEM. Yna mae'n eu cefnogi ac yn eu hannog i ddilyn pynciau digidol a STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch a'r tu hwnt.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Bob blwyddyn, cynhelir miloedd o ddigwyddiadau ledled y byd i ysbrydoli menywod a dathlu cyflawniadau.

Meddai'r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps:

“Mae Cinio Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn un o uchafbwyntiau calendr blynyddol Technocamps. Mae'n anrhydedd i ni ddangos straeon anhygoel ein siaradwyr amrywiol. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar iddyn nhw, ac i'r bobl sy'n dod i'r digwyddiad ac yn ei wneud yn llwyddiant mawr bob blwyddyn wrth drafod yr anghyfartaledd rhwng y rhywiau yn y gweithlu digidol a helpu i chwalu rhwystrau go iawn a rhai canfyddedig.”

Rhagor o wybodaeth am waith Technocamps

Rhannu'r stori