Bysellfwrdd

Mae astudiaeth arloesol wedi darganfod y berthynas gymhleth rhwng iechyd meddwl, meddylfryd byd-eang cyffredin a rhwydweithio cymdeithasol unigolion sy'n anweddog yn anwirfoddol ('incels'). 

Gwnaeth y Comisiwn Gwrthweithio Eithafiaeth (CCE) gomisiynu Ymchwil Prifysgol Abertawe ar y Gymuned Incel (SURIC) i lunio'r adroddiad hwn. Dyma'r astudiaeth fyd-eang fwyaf o incels hyd yn hyn. 

Prif ganfyddiadau:

  • Mae'r ateb i'r ffenomen incel yn cyd-fynd yn agosach â chymorth iechyd meddwl nag ymyriadau gwrthderfysgaeth.
  • Iechyd Meddwl: Bydd incels fel arfer yn dangos iechyd meddwl gwael iawn, gydag achosion aml o iselder a meddyliau hunanladdol (gwnaeth un o bob tri ohonynt ystyried hunanladdiad bob dydd am y pythefnos diwethaf). Maent hefyd yn fwy tebygol o fod yn niwroamrywiol, ac yn fwy tebygol o feddu ar ddiagnosis ar gyfer anhwylder sbectrwm awtistiaeth.
  • Agweddau a Chredoau: Roedd cyfranogwyr yn teimlo lefelau uchel o erledigaeth, dicter a chasineb at fenywod. Roeddent yn cydnabod barn fyd-eang gyffredin ymhlith incels sy'n cynnwys adnabod ffeministiaid fel gelyn sylfaenol. Hefyd, gwnaethant nodi'r asgell chwith (bell), y gymdeithas ehangach a menywod fel gelynion.
  • Cymeradwyo trais: Mae carfan fach (5%) sy'n 'cymeradwyo'r defnydd o drais’ i amddiffyn eu cymuned. Pan ofynnwyd iddynt a ydyn nhw'n cyfiawnhau trais yn erbyn pobl y maent yn ystyried eu bod yn achosi niwed iddynt, dywedodd 5% o'r ymatebwyr 'Yn aml'. Dywedodd tua 20% ohonynt "weithiau".
  • Credoau gwleidyddol: Mae llawer o sylwebyddion wedi awgrymu cysylltiad rhwng incels a'r asgell dde eithafol. Fodd bynnag, canfu'r arolwg hwn eu bod ar chwith y canol yn wleidyddol ar gyfartaledd. Yr eithriad oedd y 5% a gytunodd fod trais yn erbyn unigolion sy'n achosi niwed i incels yn aml yn cael ei gyfiawnhau; roedd yr unigolion hyn ar dde'r canol yn wleidyddol.
  • Rhagfynegi niwed: Roedd iechyd meddwl a mabwysiadu ideoleg incel yn llawer mwy tebygol o ragfynegi datblygiad safbwyntiau niweidiol na rhwydweithio cymdeithasol (sef yr amser a dreuliwyd ar wefannau rhwydwaith cymdeithasol, faint y maent yn rhyngweithio ag eraill, creu cynnwys, a chysylltiad â phobl a chynnwys radical).

Dywedodd y Comisiynydd Gwrthsefyll Eithafiaeth, Robin Simcox: "Mae'r hyn y mae incels yn ei feddwl ac yn ei gredu yn wirioneddol wedi bod yn destun dyfalu a damcaniaethu cyson. Fodd bynnag, dylai'r dystiolaeth ein harwain ni i gyd - gan gynnwys y rhai sy'n gweithio yn erbyn eithafiaeth.

"Yr astudiaeth hon yw'r ymchwil fwyaf cynhwysfawr i incels hyd yma, ac mae'n her fawr i ddoethineb confensiynol ar y pwnc. Nid yw'n syndod gweld yr awduron yn datgelu agweddau brawychus ac annerbyniol o ddrygioni a chasineb tuag at fenywod gan incels.

"Fodd bynnag, mae canfyddiadau'r adroddiad yn awgrymu nad mabwysiadu lens diogelwch neu wrthderfysgaeth tuag at incels fydd yr ymateb mwyaf priodol yn aml. Hefyd, ni ddylid codi bwganod amdanynt yn bod yn rhan o fygythiad asgell dde eithafol byd-eang.

"Pan fo risg o drais, rhaid hysbysu'r awdurdodau priodol bob amser. Fodd bynnag, mae'n allweddol bod unrhyw ymateb hefyd yn cynnwys dod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod y garfan ddigalon hon o ddynion, sydd yn aml ag iechyd meddwl gwael, yn cael eu hintegreiddio yn y gymdeithas ac yn cael cymorth priodol."

Cyhoeddwyd y datganiad i'r wasg hwn gan y Comisiwn Gwrthweithio Eithafiaeth.

Rhannu'r stori