Llun o’r Athro Siraj Shaikh.

Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi'i benodi'n Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol o fewn y rhaglen Innovate UK BridgeAI yn Sefydliad Alan Turing.

Bydd yr Athro Siraj Shaikh,o'r Adran Gyfrifiadureg,yn gweithio ochr yn ochr ag Innovate UK, Digital Catapult, Y Ganolfan Hartree, a'r Sefydliad Safonau Prydeinig i ddarparu cyngor gwyddonol annibynnol, a mentora i sefydliadau sy'n ceisio mabwysiadu datrysiadau deallusrwydd artiffisial neu ddatblygu eu galluogrwydd a’u capasiti ym maes deallusrwydd artiffisial.

Fel Athro mewn Diogelwch Systemau a Chyd-Sefydlwr a Phrif Wyddonydd CyberOwl, sy'n darparu dadansoddeg risg a monitro diogelwch i'r sector morol, mae gan yr Athro Shaikh flynyddoedd o arbenigedd gwyddonol a diwydiannol ym meysydd seiberddiogelwch a thrafnidiaeth, gyda phwyslais ar beiriannu systemau diogel a sicr.

Bydd gan y sefydliadau sy'n cael eu dewis ar gyfer cefnogaeth yr Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol heriau cymhleth y gall fod yn anodd ymdrin â nhw drwy gyrsiau hyfforddiant. Fel rhan o'i rôl newydd, bydd yr Athro Shaikh yn helpu sefydliadau i ddatrys y rhwystrau hyn a gwella eu taith wrth fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial.

Am ei benodiad, dywedodd yr Athro Shaikh: "Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r tîm BridgeAI a'r tîm Turing ehangach tuag at fabwysiadu ddeallusrwydd artiffisial diogel a sicr yn effeithiol. Her benodol sy'n rhoi cyffro i mi yw sicrwydd deallusrwydd artiffisial ar gyfer arloesi a byd diwydiant."

Dywedodd Dr Nicolas Guernion, Cyfarwyddwr Partneriaethau Sefydliad Alan Turing: "Rydym wrth ein boddau bod Siraj yn ymuno â ni fel Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol ar gyfer BridgeAI yn Sefydliad Alan Turing. Mae ei arbenigedd eang o seiberddiogelwch, peirianneg systemau, gwyddor data a deallusrwydd artiffisial, wedi’i gyfuno â'i brofiad o weithio rhwng ymchwil a byd diwydiant yn ei roi mewn sefyllfa berffaith i helpu'r rhaglen BridgeAI i gefnogi cwmnïau i wella eu taith mabwysiadu deallusrwydd artiffisial."

Darganfyddwch fwy am y rhaglen BridgeAI.

Rhannu'r stori