Anne Boden yn ystod y digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe

Rhannodd Anne Boden, MBE, sefydlydd Starling Bank, sylwadau amhrisiadwy ar oresgyn yr heriau sy'n wynebu entrepreneuriaid benywaidd yn ystod sesiwn ddifyr yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe ddydd Llun 4 Mawrth.

Gwnaeth y sesiwn, sef Datblygwyr y Dyfodol, gyd-ddigwydd â rhyddhau adroddiad tasglu llywodraeth y DU ar fentrau twf uchel dan arweiniad menywod a chyhoeddi llyfr diweddaraf Ms Boden, Female Founders’ Playbook: Insights from the Superwomen Who Have Made It.

Ers ei sefydlu yn 2022, mae'r tasglu wedi cael ei gadeirio gan Ms Boden ac mae ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â'r rhwystrau i arweinyddiaeth menywod mewn mentrau twf uchel, ac yn cynnig argymhellion i chwalu’r rhwystrau hynny.

Ar hyn o bryd, mae menywod sy'n sefydlu busnesau'n derbyn dau y cant yn unig o'r holl gyllid cyfalaf i fentrau yn y DU.  

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, mae Ms Boden a Starling Bank wedi creu cyfres o astudiaethau achos sy'n taflu goleuni ar fenywod arloesol ac yn cynnig gwersi amhrisiadwy i fyfyrwyr a'r gymuned yn ehangach.

Wrth wraidd digwyddiad Datblygwyr y Dyfodol oedd trafodaethau â'r entrepreneuriaid Eccie Newton, sefydlydd Karma Cans a Karma Kitchen; Joelle Drummond, sefydlydd Drop Bear Beer; a Hannah Lamden, sefydlydd Finery Media. Gyda'i gilydd, gwnaethant rannu eu teithiau entrepreneuraidd a thrafod strategaethau i rymuso mwy o fusnesau bach a chanolig a arweinir gan fenywod yn y DU.

Gan fyfyrio ar ei heriau ei hun wrth lansio Starling Bank, adroddodd Ms Boden stori llawn sgeptigaeth a rhwystrau: “Dechreuodd fy nhaith entrepreneuraidd pan oeddwn i'n 54 oed. Cyn hyn, roeddwn i wedi treulio fy ngyrfa gyfan yn gweithio fel swyddog corfforaethol mewn banc mawr a phenderfynais i roi'r gorau i'm swydd a sefydlu fy manc fy hun. Gwnaeth rhai pobl ymateb yn nawddoglyd, gwnaeth rhai pobl chwerthin, ond roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi fynd amdani. Cymerodd hi ddwy flynedd a 300 o gyfarfodydd cyn i mi lwyddo i godi'r cyfalaf roedd ei angen arna i i ddechrau busnes sydd bellach yn llwyddiannus iawn ac sydd wedi gweddnewid technoleg fancio ledled y byd.

“Roedd hi mor anodd sicrhau buddsoddiad gan fod y rhan fwyaf o'r bobl ar ochr arall y bwrdd yn ddynion barfog 30 oed ac roeddwn i'n wahanol iawn, iawn. Mae pobl yn tueddu i fuddsoddi mewn pobl sy'n edrych ac yn swnio fel nhw, ond fel menyw o Gymru yng nghanol ei phum degau, roeddwn i o ddemograffeg a wnaeth i hynny ymddangos yn amhosib.”

Yn y digwyddiad ddydd Llun, roedd y gynulleidfa o 200 o bobl yn cynnwys disgyblion o Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, hen ysgol uwchradd Ms Boden.

Gan annog darpar entrepreneuriaid, pwysleisiodd bwysigrwydd achub ar gyfleoedd: “Rwy'n ferch o Fôn-y-maen yn Abertawe, a aeth i Brifysgol Abertawe, gan astudio am radd cyfrifiadureg, meithrin gyrfa ym maes technoleg a dod yn entrepreneur. Gallwn ni wneud pethau yng Nghymru. Gallwn ni wneud pethau yn Abertawe. Mae'r cyfleoedd ar gael i ni, ond mae angen i ni achub arnyn nhw.”

I gloi, cynigiodd Anne gyngor doeth i'r gynulleidfa: “Mae dechrau busnes yn anhygoel o anodd. Mae un o bob 10 niwrnod yn hyfryd, ond rydych chi'n gweithio'n galed iawn am naw o bob 10 niwrnod ac yn cael ergydion enfawr. Ond mae'r unig bethau mewn bywyd sy'n werth eu gwneud yn anodd iawn. Os yw hi'n hawdd, fydd hi ddim o fudd i chi.”

Rhannu'r stori