Menyw yn eistedd wrth y bwrdd yn gwenu ar fachgen yn eistedd ochr yn ochr â hi yn defnyddio gliniadur

Yn ôl ymchwil newydd, dylid dathlu'r amrywiaeth eang o sgiliau sy'n cael eu harddangos gan bobl sydd â chyflyrau megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), dyslecsia ac awtistiaeth, er mwyn helpu i leihau stigma a newid disgwyliadau cymdeithas.

Mae creadigrwydd, gwydnwch a sgiliau datrys problemau ymysg y cryfderau sy'n cael eu dangos ac mae astudiaeth bellach yn galw am newid yn y ffordd rydym yn meddwl am bobl sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol. 

Bu Dr Edwin Burns, uwch-ddarlithydd o'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, yn gweithio gydag academyddion o Brifysgol Edge Hill ar yr astudiaeth ac mae eu canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi gan y cyfnodolyn ar-lein Neuropsychologia

Mae'r ymchwilwyr yn datgan bod pobl sydd â'r cyflyrau hyn bron bob amser yn cael eu trafod o safbwynt y problemau y maent yn eu hwynebu.

Yn aml, maent yn cael eu nodweddu yn ôl amrywiaeth o amhariadau gwybyddol o ran prosesu synhwyraidd, adnabod wynebau, delweddu gweledol, sylw a chydsymud, er enghraifft. 

Fodd bynnag, meddai Dr Burns: “Yn ein barn ni, pe bai'r cyhoedd yn ehangach yn ymwybodol bod y grwpiau hyn yn meddu ar lawer o gryfderau a sgiliau – y mae rhai ohonyn nhw'n fwy datblygedig na'r boblogaeth gyffredinol – yna dylai hyn leihau stigma a gwella eu canlyniadau addysg a chyflogaeth.” 

Ar gyfer yr astudiaeth, nododd y tîm amrywiaeth eang o sgiliau sy'n cael eu dangos gan grwpiau gwahanol megis y rhai hynny sydd â syndrom Williams, dyslecsia, awtistiaeth, ADHD, anhwylder cydsymud datblygiadol ac aphantasia. 

Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys gwell sgiliau cymdeithasol, creadigrwydd, y gallu i ddatrys problemau, gwydnwch a chwilio gweledol. 

Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu rhesymau dros y sgiliau hyn megis geneteg, profiad o ymaddasu i'r amgylchedd, addasu'r ymennydd at ddibenion eraill, a meddyginiaeth. 

Ychwanegodd Dr Burns: “Yn ein hymchwil, rydyn ni'n cyflwyno tabl o gryfderau posib ar draws cyflyrau, ac rydyn ni'n gobeithio y gall hyn symbylu adolygiad systematig mawr yn y dyfodol. 

“Dylai hyn helpu i leihau'r stigma am niwroamrywiaeth, gan hyrwyddo gwell cynhwysiant cymdeithasol a buddion cymdeithasol sylweddol.”

Darllenwch yr ymchwil yn llawn

 

Rhannu'r stori