Mae epilepsi'n gyflwr niwrolegol difrifol a all effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw oedran ac o unrhyw gefndir.

Roedd pobl ag epilepsi yn fwy tebygol o dreulio cyfnodau yn yr ysbyty o ganlyniad i COVID ac o farw o COVID yn ystod 15 mis cyntaf y pandemig, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caeredin.  

Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar 27,000 o bobl ag epilepsi yng Nghymru. Ymysg y grŵp hwn, bu 933 o dderbyniadau i'r ysbyty am COVID, cyfradd sydd 60% yn uwch na grŵp tebyg o bobl heb epilepsi. Bu farw 158 o bobl, cyfradd sydd 33% yn uwch na chyfradd y grŵp rheoli.   

Cymharwyd y 27,000 o bobl a astudiwyd â grŵp rheoli o 135,000 o bobl a oedd yn bodloni meini prawf allweddol cyfatebol – rhyw, oedran, cyflyrau iechyd eraill, statws economaidd-gymdeithasol – ond nad oedd ganddynt epilepsi.  

Gwnaeth hyn alluogi'r ymchwilwyr i ynysu epilepsi fel ffactor a gweld rhai o effeithiau COVID ar bobl a oedd yn byw gydag epilepsi yng Nghymru ar ddechrau'r pandemig.  

Mae epilepsi'n gyflwr niwrolegol difrifol a all effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw oedran ac o unrhyw gefndir. Mae'n effeithio ar oddeutu un o bob 100 o bobl – 30,000 yng Nghymru a 600,000 ledled y DU. Bob dydd, caiff 87 o bobl eu diagnosio.   

Roedd Epilepsy Action, elusen sy'n cefnogi pawb y mae epilepsi'n effeithio arno, yn un o'r partneriaid yn yr ymchwil, ynghyd â Phrifysgol Caeredin. Cafodd y prosiect ei ariannu gan Llywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 

Mae'r ymchwil yn seiliedig ar ddata iechyd dienw ar gyfer y tair miliwn o bobl yng Nghymru, sy'n cael ei gasglu’n rheolaidd a'i storio'n ddiogel ym manc data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe.  

Gan ddefnyddio'r adnodd amhrisiadwy hwn, dadansoddodd y tîm ddata am feysydd megis statws iechyd, defnydd o wasanaethau meddygon teulu, cyfnodau yn yr ysbyty ac achosion marwolaeth, dros y cyfnod o 1 Mawrth 2020 tan 30 Mehefin 2021, gan gymharu'r grŵp ag epilepsi yn erbyn y grŵp rheoli a chyfraddau cyn y pandemig.  

Y canlynol oedd canfyddiadau allweddol gwaith dadansoddi'r tîm ar y data:  

  • Roedd pobl ag epilepsi 60% yn fwy tebygol o dreulio cyfnodau yn yr ysbyty o ganlyniad i COVID a 33% yn fwy tebygol o farw o COVID na'r grŵp rheoli, hyd yn oed ar ôl addasu ar gyfer effaith cyflyrau iechyd eraill; 
  • Roedd nifer y diagnosisau newydd o epilepsi'n llawer llai nag yn ystod y cyfnod cyn COVID;   
  • Hefyd, roedd llai o bobl ag epilepsi yn mynd i adrannau brys, yn treulio cyfnodau yn yr ysbyty ac yn cael apwyntiadau fel cleifion allanol; 
  • Er na chynyddodd nifer y bobl ag epilepsi a fu farw o bob achos a gostyngodd nifer y marwolaethau nad oeddent yn ymwneud â COVID, roedd cynnydd bach yn nifer y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag epilepsi; 
  • Yn ôl pob golwg, ni fu cynnydd yn y math mwyaf difrifol o ymosodiad (status epilepticus) yn ystod y pandemig. 

Arweiniodd Dr Owen Pickrell, niwrolegydd ymgynghorol ac athro cysylltiol clinigol er anrhydedd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, y tîm ymchwil gyda'r Athro Richard Chin o Brifysgol Caeredin.  

Meddai Dr Owen Pickrell o Brifysgol Abertawe:  

“Cafodd pandemig COVID-19 effeithiau arwyddocaol ar ofal iechyd ac mae'n bwysig ceisio deall ei oblygiadau llawn i bobl sy'n byw â chyflyrau tymor hir megis epilepsi.  

“Roedd pobl ag epilepsi'n fwy tebygol o dreulio cyfnodau yn yr ysbyty a marw o ganlyniad i COVID, ond nid yw'n amlwg pam roedd hynny'n wir. Mae angen rhagor o ymchwil yn y maes hwn.”  

Meddai'r Athro Richard Chin o Brifysgol Caeredin, cyd-arweinydd yr ymchwil:  

“Mae'r gwaith hwn yn dangos cryfderau defnyddio data a gesglir yn rheolaidd at ddibenion ymchwil a chydweithredu. Mae angen i bobl ag epilepsi a'u meddygon barhau i fod yn ymwybodol o effaith bosib COVID-19 ar bobl ag epilepsi.”  

Meddai Huw Strafford, prif ddadansoddwr data'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe:  

“Elwodd y gwaith hwn o’r data sydd ar gael yn SAIL, banc data sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, yma yn Abertawe. Dangosodd ein hymchwil hefyd y bu llai o ddiagnosisau newydd o epilepsi a llai o gysylltiadau â'r gwasanaethau iechyd gan bobl ag epilepsi, yn ystod y cyfnod y gwnaethon ni ei archwilio.”  

Meddai Jan Paterson, Rheolwr Epilepsy Action Cymru:  

“Roedden ni wrth ein boddau'n gweithio gyda'r ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe ar yr adroddiad pwysig hwn.  

“Gyda'r pwysau cynyddol ar wasanaethau a gweithwyr iechyd yn dilyn y pandemig, mae'n bwysig sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i ymdrin ag effeithiau a goblygiadau'r canfyddiadau hyn.”  

Mae'r ymchwil newydd wedi cael ei chyhoeddi mewn dau bapur newydd yn y cyfnodolyn Epilepsia 

Papur 1

Papur 2 

 

 

Rhannu'r stori