Merch fach yn siglo ar raff mewn maes chwarae awyr agored wrth i ferch fach arall wylio

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi amlygu pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i bobl o bob oedran.

Fel rhan o Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS), mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn defnyddio eu harbenigedd i archwilio amrywiaeth eang o faterion a bydd eu canfyddiadau bellach yn llywio sut gall arweinwyr helpu pobl yng Nghymru i fyw bywydau iachach.  

Mae pedwerydd adroddiad blynyddol y sefydliad newydd gael ei gyhoeddi i gyd-fynd ag Wythnos Iechyd Meddwl Plant, sy'n para tan ddydd Sul, 11 Chwefror. 

Mae WIPAHS yn rhwydwaith ledled Cymru sy'n galluogi pob un o'r wyth prifysgol yng Nghymru i weithio gyda Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n dod â'r byd academaidd, y rhai hynny sy'n hwyluso gweithgarwch corfforol a chwaraeon, llunwyr polisi a'r cyhoedd ynghyd i helpu i greu cymdeithas iachach. 

Meddai'r Athro Kelly Mackintosh, un o gyd-gyfarwyddwyr WIPAHS, o Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe: “Mae'n hynod briodol ein bod ni'n cyhoeddi'r adroddiad hwn nawr, yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant; mae gweithgarwch corfforol yn hollbwysig i iechyd meddwl. 

“Drwy helpu i sicrhau bod rhyw fath o weithgarwch corfforol ar gael i bobl o bob oedran, yn hytrach na phlant yn unig, gallwn ni wneud cyfraniad allweddol at hyrwyddo iechyd meddwl gwell a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.” 

Ymysg prosiectau eraill, mae WIPAHS yn gweithio ar hyn o bryd i asesu lefelau gweithgarwch corfforol ac ymddygiadau plant a'r glasoed ledled Cymru, a chysylltiad y rhain ag iechyd meddwl a lles. Bydd gwybodaeth a gesglir drwy gyfres o arolygon ar-lein, a dyfeisiau sy’n olrhain gweithgarwch corfforol, yn galluogi ymchwilwyr i nodi’r effaith y mae ffactorau megis y pandemig, newidiadau i'r cwricwlwm ysgolion a phenderfyniadau ariannu’n ei chael ar bobl ifanc ledled Cymru. Defnyddir y data hwn hefyd i nodi meysydd penodol lle mae'n rhaid targedu strategaethau ymyrryd. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae WIPAHS hefyd wedi cymryd rhan mewn prosiectau pellgyrhaeddol, gan gynnwys:

  • Babi Actif - menter i helpu rhieni i fod yn actif gyda'u babanod yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf eu bywydau sy'n cynnig cyfle unigryw i feithrin plant iachach a gwella eu cyfleoedd mewn bywyd;
  • Adran Pobl Ifanc Egnïol Pen-y-bont ar Ogwr (AYPD) – dechreuwyd cyfres o brosiectau gydag AYPD Pen-y-bont ar Ogwr yn 2023, gan gynnwys gwerthuso ei Pharth Teulu Egnïol a'i Rhaglen Arweinwyr Ifanc, ynghyd â grwpiau ffocws fel rhan o ymgynghoriad ar weithgarwch corfforol a lles â phobl ifanc ledled y fwrdeistref; a
  • Chynllun Byw Actif Chwaraeon Cymru i Bobl 60 oed, sydd â'r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith pobl dros 60 oed drwy roi cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. 

Meddai'r Athro Melitta McNarry, un o'r cyd-gyfarwyddwyr: “Mae cyfraniad hollbwysig gweithgarwch corfforol at iechyd a lles ar lefel unigol, gymdeithasol ac economaidd yn parhau i gael ei gydnabod yn fwyfwy ac rydyn ni wrth ein boddau bod WIPAHS wedi llwyddo i helpu cynifer o sefydliadau, llunwyr polisi ac elusennau i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhellach a'i wneud yn hygyrch i bawb o bob oedran, ethnigrwydd a lleoliad daearyddol.” 

Mae'r prosiectau eraill sydd yn yr arfaeth yn cynnwys gwerthuso menter ‘Os ei di af i’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a pharhau i hyrwyddo Rhwydwaith Iechyd Menywod yng Nghymru i fynd i'r afael â chwestiynau ymchwil allweddol a mentrau o ran iechyd a gweithgarwch corfforol menywod. 

Ychwanegodd Owen Hathway o Chwaraeon Cymru, cyd-gadeirydd Bwrdd Rheoli Strategol y sefydliad: “Mae hon wedi bod yn flwyddyn wych arall o gynnydd i WIPAHS ac mae'r adroddiad blynyddol wir yn amlygu ehangder y gwaith sy'n cael ei wneud. Mae'r sefydliad wedi datblygu'n gyflym i fod yn un o elfennau craidd yr ymchwil i chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, ac mae ei enw da a'i effaith yn tyfu bob blwyddyn. 

“Mae cwmpas y gwaith yn wych ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut gall dyfu ymhellach dros y 12 mis nesaf, gan ddod yn bartner sydd hyd yn oed yn bwysicach i Chwaraeon Cymru a'r sector chwaraeon ehangach.”  

Dilynwch WIPAHS ar  X and Linkedin 

 

Rhannu'r stori