Dyn a dynes yn eistedd wrth y bwrdd yn arwyddo dogfen gyda grŵp o naw o bobl yn sefyll y tu ôl iddyn nhw - i gyd yn edrych ar y camera

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i’w helpu i weithio’n agosach ar feysydd hanfodol o ddiddordeb cyffredin fel gweithio’n effeithiol gyda diwydiant a chefnogi datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer y rhanbarth.

Llofnodwyd dogfen Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn Abaty Singleton ym Mhrifysgol Abertawe gan Brif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot Karen Jones ac Is-ganghellor Prifysgol Abertawe yr Athro Paul Boyle.

Nod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yw helpu’r ddau sefydliad archwilio dulliau o gydweithio â sefydliadau eraill i hybu iechyd a llesiant pobl leol.

Dywedodd Karen Jones: “Mae llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gyfle i gadarnhau’r hyn sydd eisoes yn berthynas dda rhwng y cyngor a’r brifysgol, a nod y ddwy ochr yw parhau i gydweithio i amlygu ac archwilio cyfleoedd i gydweithredu a mecanweithiau ariannu i helpu i beri fod yr ardal hon yn ffyniannus ac yn lle deniadol i fuddsoddi fyw a gweithio ynddo.”

Rhoddir ffocws penodol ar yr agenda parhaus o ran datgarboneiddio a diwydiant cynaliadwy ac ar wyddorau data ac arloesi digidol.

Meddai yr Athro Boyle: “Sefydlwyd ein Prifysgol dros ganrif yn ôl i ateb anghenion ein cymuned leol, ac rydym wrth ein bodd o allu adeiladu ar y gwaddol hwn drwy gryfhau ein partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

“Drwy’r cydweithrediad hwn a’n gwaith â phartneriaid lleol eraill, byddwn ni’n ceisio parhau i gefnogi datblygu sgiliau ac addysg yn ein rhanbarth, a chyfrannu’n gadarnhaol at ei gynaliadwyedd economaidd drwy gyfrwng ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi sy’n arwain y byd.”

Meysydd pwysig eraill o ddiddordeb cyffredin fydd addysg, a’r farchnad lafur – ac yn enwedig helpu i hybu cyflogaeth a sgiliau.

Bydd pwyslais hefyd ar barhau i ddod o hyd i ffyrdd o wella ansawdd bywyd poblogaeth sy’n heneiddio.

Mwy am ein partneriaethau busnes

 

Rhannu'r stori