Ffotograffau pen ac ysgwyddau ar wahân o ddyn a menyw wedi'u troshaenu ar ben llun allanol o adeilad modern

Mae Prifysgol Abertawe ar fin cynnal cwrs newydd unigryw gyda'r nod o gael y gorau o bobl ddifreintiedig a'u hysbrydoli i ddilyn llwybr gwahanol mewn bywyd.

Mae'r brifysgol yn gweithio ar y cyd â'r fenter o Fryste Street2Boardroom  ar gyfer y cwrs sy'n para pum wythnos o'r enw Mentergarwch a Chreadigrwydd: Entrepreneuriaeth ar Waith a gaiff ei lansio'r hydref hwn.  Ei nod yw rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd i'r dysgwyr a hefyd roi profiad uniongyrchol iddynt o fywyd y brifysgol. 

Mae 15 i 20 o leoedd ar gael, ac mae'r cwrs ar agor i bobl o bob cefndir, gan gynnwys y rhai hynny sy'n cael eu hystyried mewn perygl o droseddu ar y stryd.  Bydd yn cynnwys cyflwyniad i fusnes ac yn tynnu sylw at lwybrau at gyflogaeth neu addysg ffurfiol. 

Mae cwrs Street2Boardroom yn defnyddio cyfuniad sefydledig o addysgeg drwy brofiad a dosbarthiadau i ysbrydoli pobl i hybu eu gyrfaoedd neu sefydlu eu busnesau eu hunain. Bydd yn cael ei gynnal fel profiad dwys, ar y campws, gyda darlithwyr, gweithdai, dosbarthiadau meistr a sesiynau rhyngweithiol ym mis Medi a mis Hydref. 

Yn ogystal â throsglwyddo addysg werthfawr mewn entrepreneuriaeth a chychwyn busnes, mae'r tîm y tu ôl i'r fenter yn dweud eu bod am annog y rhai hynny a allai fod wedi meddwl nad oedd modd iddynt gyrraedd y brifysgol i barhau â'u haddysg. 

Meddai'r Athro Louisa Huxtable-Thomas, o'r Ysgol Reolaeth: "Pan ddaeth Street2Boardroom atom i droi'r cwrs hwn yn realiti, roeddwn i wir am ei wireddu. Yn ogystal â darparu gwybodaeth am y byd go iawn, mae'r cwrs byr dwys hwn yn rhoi cyfle i bobl gael profiad o'r brifysgol a phenderfynu a yw hynny'n addas iddyn nhw.

 "Mae cynifer o bobl yn teimlo bod addysg uwch yn rhy ddethol neu allan o gyrraedd iddyn nhw, a dyma un o'r nifer o ffyrdd rydyn ni yn Abertawe yn datblygu cyfleoedd dysgu gydol oes i bobl o bob cefndir. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan ohono!" 

Sefydlwyd Street2Boadroom yn 2016 gan Clayton Planter a oedd yn teimlo bod y system yn gwrthod rhai mathau o bobl dro ar ôl tro; gan eu hatal rhag cyrraedd eu potensial llawn, gan ddod o hyd i fodelau rôl cadarnhaol y gallent uniaethu â nhw neu ailymuno â chymdeithas yn y pen draw.

Meddai: "Newid a herio canfyddiadau pobl o gefndiroedd difreintiedig yw ein prif nod yn Street2Boardroom. 

"Pe gallai pobl ifanc ac oedolion sy'n cael eu dal mewn gweithgareddau anghyfreithlon ond gredu y gallent gyflawni pethau mawr. Wrth roi'r cyfle, yr wybodaeth a'r hyder iddynt i gymhwyso'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu o'r strydoedd - dysgu'r hwtro cyfreithiol - gall hynny newid eu bywydau." 

Ychwanegodd Clayton: "Rwyf mor falch bod Prifysgol Abertawe wedi cytuno i'r bartneriaeth hon. Yr hyn rwy'n hoffi am Abertawe yw ei bod yn gwneud pethau'n wahanol - meddwl tu allan i'r blwch, herio'r status quo." 

Bydd y cwrs yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys sgiliau busnes hanfodol, deall cwsmeriaid yn ogystal â busnes stryd yn erbyn busnes corfforaethol. 

Ar ddiwedd y pum wythnos, bydd myfyrwyr yn cael tystysgrif addysg uwch gwerth 7.5 pwynt Cynllun Trosglwyddo Credyd Ewropeaidd, sef 15 credyd yn y DU.  Mae hyn yn brawf o'u gallu i ddysgu ar lefel y brifysgol, y gellir ei ddefnyddio wrth gyflwyno cais am radd baglor (Lefel 4). 

Dywed Clayton mai dim ond y dechrau fydd y cwrs hwn - mae ei brosiect bellach yn anelu at ddatblygu Street2Boardroom: Learn the Legal Hustle yn gwrs a fydd yn hygyrch ledled y wlad. 

Am ragor o wybodaeth, gellir e-bostio'r Athro Huxtable-Thomas neu ewch i dudalen y cwrs

 

Rhannu'r stori