Ffotograff sy'n dangos y tu mewn i Lyfrgell Campws y Bae Prifysgol Abertawe. Mae yna silffoedd llyfrau a byrddau gwag.

Mae Prifysgol Abertawe wedi adnewyddu ei hymroddiad i'r Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd a bydd yn parhau i gynnig mynediad am ddim at addysg a gwybodaeth o safon i'r gymuned leol drwy ei llyfrgelloedd.

Mae'r cynllun, sydd ar gael i aelodau o lyfrgelloedd cyhoeddus Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Penfro, yn lliniaru'r cyfyngiadau ariannol sy'n gysylltiedig â phrynu deunyddiau astudio ac yn helpu unigolion i wella eu sgiliau ymchwil.

Mae'r cynllun hefyd yn magu diwylliant o ddarllen er lles y tu hwnt i ddibenion addysg ac mae'n annog cynaliadwyedd amgylcheddol drwy fenthyg yn hytrach na phrynu.

I fod yn fenthyciwr allanol yn Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, rhaid i ymwelwyr wneud y canlynol:

  • Mynd i'w llyfrgell gyhoeddus agosaf a llenwi ffurflen cynllun pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd i aelod o staff ei stampio.
  • Dod â'u pasbort wedi'i stampio, ynghyd â cherdyn llyfrgell dilys, i gangen o Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe
  • Bod yn barod i ddangos eu pasbort wedi'i stampio pryd bynnag y byddant yn ymweld â'r llyfrgell.

Meddai'r Cyfarwyddwr Cysylltiol Robin Armstrong Viner, Pennaeth Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe: “Mae Prifysgol Abertawe’n falch iawn o fod yn adnewyddu ei hymrwymiad i Gynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd, i wneud yn siŵr bod pob aelod o'n cymuned ranbarthol yn gallu cyrchu'r cyfoeth o gasgliadau rydym yn eu cadw ac yn gofalu amdanynt. Mae darparu'r adnoddau hyn i holl aelodau'r cyhoedd, beth bynnag eu cefndir, yn hanfodol wrth feithrin gwybodaeth a sgiliau yn ne-orllewin Cymru.”

Mae'r cynllun hefyd yn darparu mynediad i lyfrgelloedd cyhoeddus lleol, addysg bellach, addysg uwch a bwrdd iechyd eraill i ddeiliaid pasbortau.

I drefnu eich ymweliad ag un o lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, gwiriwch ein horiau agor.

Rhannu'r stori