Yr Athro Matthew Davies

Mae UNESCO wedi dyfarnu Cadair mewn Technolegau Ynni Cynaliadwy i'r Athro Matthew Davies, arweinydd Ffotocemeg Gymhwysol a’r Economi Gylchol yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.

Rôl deiliad y Gadair fydd hyrwyddo datblygiad deunyddiau ffotofoltäig neu gelloedd solar rhad, effeithlon a chynaliadwy y gellir eu hargraffu. 

Mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Abertawe a 15 o bartneriaid ledled Affrica a De'r Byd, bydd yr Athro Davies yn datblygu technolegau solar sy'n addas i'w gweithgynhyrchu a'u defnyddio yn yr ardaloedd hyn.

Bydd y prosiect yn integreiddio egwyddorion economi gylchol ac yn hyrwyddo’r defnydd o ddeunyddiau brodorol a chynaliadwy i sicrhau bod deunyddiau'n cael eu defnyddio'n briodol, lleihau cadwyni cyflenwi, a sicrhau bod deunyddiau ffotofoltäig yn cael eu hailddefnyddio, eu hailweithgynhyrchu a'u hailgylchu. Bydd hyn yn helpu i atal technolegau sy’n cael eu datblygu rhag cyfrannu at broblem fyd-eang e-wastraff ar ddiwedd eu hoes ddefnyddiol, gan gadw cydrannau mewn llifoedd deunyddiau sy'n ddefnyddiol yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Mae'r Athro Davies yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol KwaZulu-Natal ac yn un o Gymrodyr y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, ac ef yw Llywydd ei Chyngor Cymuned ar yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd ac Ynni, cymuned ryng-gysylltiedig sy'n hyrwyddo gwybodaeth, polisi a defnydd o ran cemeg sy'n ymwneud â'r amgylchedd, cynaliadwyedd ac ynni. 

Meddai'r Athro Davies:

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd go iawn i mi dderbyn rôl Cadair UNESCO. Ers blynyddoedd lawer, mae cenhadaeth UNESCO o greu diwylliant o heddwch, trechu tlodi, hyrwyddo datblygu cynaliadwy, a meithrin sgwrs ryng-ddiwylliannol wedi creu argraff ddofn arna i. Mae'r gwerthoedd hyn wedi cael eu hadlewyrchu yn fy ngwaith gyda  Phrifysgol KwaZulu-Natal yn Ne Affrica a phrosiect SUNRISE y Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang yn India.

“Mae ymrwymiad UNESCO i gydweithrediad rhyngwladol yn rhoi llwyfan eithriadol i ni ehangu ein heffaith ac ysgogi newid ystyrlon ar raddfa fyd-eang.”

Meddai James Bridge, Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd Cyffredinol Comisiwn Cenedlaethol UNESCO y Deyrnas Unedig:

“Rydyn ni wrth ein boddau bod Cadair UNESCO mewn Technolegau Ynni am Fyd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Abertawe, dan arweiniad yr Athro Matthew Davies, wedi cael ei chreu'n ffurfiol. 

“Mae Rhaglen Cadeiriau UNESCO yn rhan hollbwysig o waith byd-eang UNESCO. Mae Cadeiriau UNESCO yn hyrwyddo ymchwil, hyfforddiant a datblygu rhaglenni ar draws gwaith y sefydliad ym meysydd addysg, gwyddoniaeth, diwylliant, cyfathrebu a gwybodaeth. 

“Bydd datblygu technolegau ynni gwirioneddol gynaliadwy'n darparu twf economaidd cynaliadwy, cynhwysol a theg, gan greu rhagor o gyfleoedd i bawb a lleihau annhegwch. Bydd creu'r Gadair hon yn rhoi cymorth mawr i raglenni UNESCO yn y cylch hwn, yn enwedig yn Affrica Is-Sahara a De'r Byd.

“Yn ehangach, drwy greu'r Gadair newydd hon yn ffurfiol ar ran UNESCO, mae gan y DU rwydwaith o fwy na 30 o brifysgolion a sefydliadau addysg uwch erbyn hyn sy'n rhoi cyngor arbenigol o fri rhyngwladol ar bolisïau a rhaglenni byd-eang UNESCO.”

Ychwanegodd Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Ar ran y Brifysgol, hoffwn i longyfarch yr Athro Matthew Davies ar ennill Cadair UNESCO. Mae'n glod mawr iddo a'r Brifysgol ac mae'n arddangos ein hymrwymiad i weithio gydag UNESCO i fynd i'r afael â heriau byd-eang a gwneud cyfraniad cadarnhaol at gyflawni amcanion y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae gan ein Prifysgol hymagwedd fyd-eang ac mae’n bleser i ni gael y cyfle hwn i gryfhau ein partneriaethau byd-eang a chynyddu ein heffaith ym maes technolegau ynni cynaliadwy.”

Rhannu'r stori