Mae Cadair UNESCO mewn Technolegau Ynni Cynaliadwy yn ymroddedig i ddatblygu technolegau solar effeithlon a chynaliadwy am gost isel. Mae'n canolbwyntio ar eu gweithgynhyrchu a'u defnyddio mewn economi gylchol yn Affrica a gwledydd incwm isel a chanolig.

Gan gydweithredu â chydweithwyr yn Abertawe a partneriaid ar draws y rhanbarthau, mae'r Athro Matthew Davies yn cydlynu rhwydwaith i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnolegau ffotofoltäig argraffadwy ar gyfer gwledydd incwm isel a chanolig.

Dyfarnwyd y Gadair yn 2024 am bedair blynedd.

Logo Cadair UNESCO

Yr Her

Mae'r gallu i gynhyrchu ynni glân, fforddiadwy a dibynadwy yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth. Mae'r dasg hon yn hanfodol ar gyfer datblygu cynaliadwy a mynd i'r afael â heriau a chyfleoedd byd-eang.

Nid yw'r angen hwn yn bwysicach yn unrhyw le nag ar gyfandir Affrica - ardal sydd ag ynni solar helaeth, cyfoeth naturiol a gweithlu dyfeisgar ac arloesol. Er gwaethaf hyn, mae 500 miliwn o bobl heb fynediad at drydan ac mae llawer mwy yn byw mewn tlodi tanwydd neu'n dioddef cyflenwadau ynni anghyson.

Mae technolegau datblygol, megis deunyddiau ffotofoltäig argraffadwy, mewn sefyllfa dda i gael effaith - yn enwedig dyfeisiau organig ac ar sail perofsgit, sy'n addo lefelau uchel o effeithlonrwydd a chostau deunyddiau a phrosesu isel.

Fodd bynnag, yn anaml y caiff systemau a chydrannau adnewyddadwy eu dylunio â ffocws ar ddiwallu anghenion penodol economïau incwm isel a chanolig. Oherwydd hyn gall technolegau fethu a gellir cynhyrchu gwastraff electronig peryglus mewn ardaloedd lle ceir ychydig iawn o gyfleusterau i'w drin yn ddiogel.

Sut bydd y Gadair yn mynd i'r afael â'r materion hyn

Amcan y Gadair hon yw rhoi i gymunedau lleol yr wybodaeth a'r adnoddau i harneisio ynni'r haul, trawsnewid gwastraff yn gyfoeth, a chreu dyfodol gwell drwy dechnolegau ffotofoltäig sy'n wirioneddol gynaliadwy.

Mae'r Gadair yn hyrwyddo datblygiad technolegau ffotofoltäig newydd ar gyfer gwledydd incwm isel a chanolig.

Yn hollbwysig, mae'n cysylltu'r agweddau technegol a pheirianyddol ar eu datblygu ag ystyriaethau ehangach, megis egwyddorion economi gylchol, materion cymdeithasol ac addysg.

Mae gwaith y Gadair yn seiliedig ar dair egwyddor

Yr Athro Matthew Davies

Yr Athro Matthew Davies yw deiliad Cadair Technolegau Ynni Cynaliadwy UNESCO. Mae'n Athro Cysylltiol ac yn Bennaeth y Grŵp Ffotogemeg Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r Athro Davies hefyd yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol KwaZulu-Natal. Mae'n Gymrawd o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol ac ef yw Llywydd Cyngor Cymuned yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd ac Ynni’r Gymdeithas.

Mae'n ymchwilio i ffotogemeg deunyddiau sy'n ddefnyddiol ar gyfer cymwysiadau ffotofoltäig cost isel, â'r nod o wella sefydlogrwydd ac effeithlonrwydd a pherfformiad technolegau cynaeafu golau. Mae hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar gelloedd solar perofsgit, ond mae hefyd yn cynnwys celloedd solar wedi'u sensiteiddio gan lifyn a deunyddiau ffotofoltäig organig. Mae Matthew yn ymddiddori'n benodol mewn dyfeisiau a deunyddiau wedi'u hail-weithgynhyrchu a phrosesau i alluogi ailddefnyddio ac ail-weithgynhyrchu mewn economi gylchol.

Partneriaid Cadair UNESCO

Nid yw'r dynodiadau a ddefnyddir a'r deunydd a gyflwynir drwy gydol y cyhoeddiad hwn yn awgrymu y mynegir unrhyw farn o gwbl gan UNESCO ynghylch statws cyfreithiol unrhyw wlad, tiriogaeth, dinas neu ardal nac o ran ei hawdurdodau, neu ynghylch terfynau ei ffiniau.

Mae'r syniadau a'r barnau a fynegir yn y cyhoeddiad hwn yn eiddo i’r awduron; nid rhai UNESCO o angenrheidrwydd ydynt ac nid ydynt yn rhwymo'r sefydliad.