Myfyrwyr yn cerdded y tu allan i lety ar Gampws y Bae

Fel rhan o ddarpariaeth gampws Prifysgol Abertawe, mae'n cynnig llety byr dymor ar y safle i staff, myfyrwyr a chydweithwyr sy'n ymweld.

Yn ogystal â gwella'r profiad i ymwelwyr â'r campws, gall y cynnig hwn fod yn opsiwn rhatach o'i gymharu â darparwyr llety yng nghanol y ddinas.

Mae'r llety sydd ar gynnig ar gael yn ystod y tymor yn ogystal ag yn ystod gwyliau ac fe'i darperir fesul wythnos.

Fel arfer, mae'r llety ar gael i'r grwpiau canlynol:

  • Myfyrwyr sy'n parhau/yn dychwelyd
  • Interniaid: Myfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn interniaethau neu raglenni gwaith/astudio
  • Cyfranogwyr mewn Ysgolion Haf: Myfyrwyr sy'n dod i sesiynau'r ysgolion haf.
  • Ymchwilwyr: Ysgolheigion ac ymchwilwyr sy'n gweithio ar brosiectau byr dymor ac yn gwneud gwaith maes
  • Athrawon Ymweld: Gweithwyr academaidd proffesiynol sy'n ymweld am gyfnod byr
  • Staff: sy'n adleoli ac angen llety wrth iddyn ddod o hyd i lety parhaol
  • Staff: Gall y rhai sy'n archebu ychydig nosweithiau mewn gwesty ddewis Campws y Bae a chadw'r un ystafell ac aros am gynifer o nosweithiau yr wythnos ag y dymunant

Mae ystafelloedd ensuite (gwely dwbl bach) ac ystafelloedd en suite premiwm mwy (gwely dwbl) ar gael am £140 a £155 yr wythnos yn y drefn honno.

Ebostiwch Gwasanaethau Preswyl am wybodaeth bellach neu i gadw ystafell.

Rhannu'r stori