Yr Athro Leo Groarke, Llywydd Prifysgol Trent, gyda myfyrwyr Trent yn Abertawe

Yr Athro Leo Groarke, Llywydd Prifysgol Trent, gyda myfyrwyr Trent yn Abertawe

Mae arweinwyr o un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Canada, sydd wedi bod yn cyfnewid myfyrwyr ag Abertawe fel rhan o bartneriaeth ffyniannus am dros 30 o flynyddoedd, wedi bod yn ymweld â'r campws i ddatblygu cysylltiadau pellach.

Mae Prifysgol Trent yn brifysgol gyhoeddus sy'n arbenigo yn y celfyddydau rhyddfrydol yn Peterborough, Ontario.  Cafodd ei sefydlu ym 1964 ac mae ganddi tua 10,000 o fyfyrwyr. Mae'n cael ei rhestru'n gyson ymhlith prifysgolion gorau Canada ac mae wedi bod ar y brig ymhlith prifysgolion i fyfyrwyr israddedig yn Ontario am 13 o flynyddoedd yn olynol.

Yn ddiweddar, ymwelodd Llywydd Trent ac uwch-gydweithwyr eraill ag Abertawe, gan gwrdd â'r Is-ganghellor, y Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladol) a chynrychiolwyr o bob un o'r cyfadrannau.

Cyfarfu'r cynrychiolwyr o Ganada hefyd â myfyrwyr o Trent sy'n astudio yn Abertawe ac â myfyrwyr o Abertawe a fydd yn mynd i Trent ar raglen gyfnewid yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Abertawe a Trent dros 30 o flynyddoedd yn ôl ac mae llawer o fyfyrwyr o'r ddwy brifysgol wedi elwa o ymweliadau cyfnewid.

Yn ddiweddar, mae Abertawe a Trent wedi datblygu rhaglenni gradd ddeuol yn y gyfraith, mewn peirianneg gemegol ac yn y gwyddorau meddygol.

Mae myfyrwyr ar y rhaglenni hyn yn treulio eu dwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Trent cyn trosglwyddo i Abertawe naill ai am ddwy neu dair blynedd.

Hyd yn hyn, mae 100 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar y rhaglenni hyn. Ar hyn o bryd, mae 69 myfyriwr o Trent yn astudio yn Abertawe.

Mae Evan Roitz wedi bod yn astudio ar y Rhaglen Gradd Ddeuol mewn Peirianneg Gemegol:

"Mae astudio ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn brofiad anhygoel, ac mae'r holl staff yn hynod gyfeillgar ac agos atoch! Roedd y Brifysgol yn gefnogol iawn wrth fy helpu i symud i Abertawe a gwnaethon nhw wneud i mi deimlo'n gartrefol iawn yma. 

Dewisais i raglen gradd ddeuol Trent-Abertawe oherwydd fy niddordeb mewn peirianneg a chymwysiadau diwydiannol cemeg. Byddwn i'n argymell y rhaglen hon yn fawr i bobl eraill sydd â diddordebau tebyg!"

Mae Hadley Middleton wedi bod yn dilyn y Rhaglen Gradd Ddeuol yn y Gyfraith:

"Mae fy amser yn Abertawe wedi bod yn llawn ffrindiau newydd, athrawon a rhagolygon gyrfa yn y maes hoffwn i weithio ynddo. Mae astudio fel myfyriwr rhyngwladol yn frawychus i ddechrau, ond mae'n gyfle unwaith mewn bywyd a dwi'n falch fy mod i wedi achub arno yn Abertawe."

Arweiniwyd y cynrychiolwyr o Trent gan yr Athro Leo Groarke, Llywydd Prifysgol Trent. Yn y grŵp roedd: Glennice Burns, Llywydd Cysylltiol Rhyngwladol; Dr Scott Henderson, Deon, Campws Durham; Dr Devin Penner, Athro Cynorthwyol, Astudiaethau Gwleidyddol a Chydlynydd Rhaglen y Gyfraith Abertawe; a Dr Kristy Buccieri, Athro Cysylltiol Cymdeithaseg a chydlynydd rhaglen Troseddeg Trent.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

"Mae ein partneriaethau rhyngwladol strategol yn hanfodol i uchelgeisiau trosfwaol Prifysgol Abertawe, gan ystyried y cyfleoedd sylweddol gallant eu cynnig i'n myfyrwyr a'n staff. Mae Prifysgol Trent yn un o'n partneriaid rhyngwladol allweddol a chyda'n gilydd, rydym yn falch o fod wedi datblygu nifer o raglenni gradd arloesol sy'n cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr i astudio yng Nghanada ac yng Nghymru.

Roedd hi'n bleser mawr croesawu'r cynrychiolwyr o Trent yn ystod eu hymweliad diweddar ag Abertawe, a pharhau i archwilio cyfleoedd newydd a fydd yn cyfoethogi ein tirwedd academaidd ymhellach ac yn meithrin cyfleoedd newydd i'n staff a'n myfyrwyr.

 

Rhannu'r stori