Campysau Prifysgol Abertawe o'r awyr

Bydd digwyddiadau'r Rhyng-gol yn cael eu cynnal ar Gampws y Bae ac ar Gampws Singleton

Mae disgwyl i dros 500 o fyfyrwyr Cymraeg o brifysgolion Cymru heidio i Abertawe ar 1-2 Mawrth wrth i’r Eisteddfod Ryng-golegol ail-ymweld â Phrifysgol Abertawe am y tro cyntaf ers 2019.

Bydd diwrnod o gystadlu yn dechrau yn Neuadd Fawr y Brifysgol ar Gampws y Bae am 10am fore Sadwrn, 2 Mawrth, gyda’r cyflwynydd a chyn-fyfyrwraig Abertawe Siân Thomas yn Feistres y Ddefod.

Y comedïwr Noel James o Gwmtawe, a chyn-Swyddog Materion y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, Tom Kemp, fydd yn llywio’r diwrnod.

Mae’r cystadlaethau’n cynnwys perfformiadau llwyfan a chystadlaethau gwaith cartref - o farddoniaeth i ryddiaith, ac o gelf i wyddoniaeth.

Mae cystadlaethau penodol hefyd i fyfyrwyr sy’n ddysgwyr Cymraeg.

Ysgol Gyfun Gŵyr sydd wedi creu’r Goron, ac Ysgol Gyfun Bryn Tawe sydd wedi creu’r Gadair.

Cyn y cystadlu Eisteddfodol ar y Sadwrn, cynhelir cystadlaethau chwaraeon ar brynhawn Gwener 1 Mawrth, gan gynnwys twrnamaint rygbi 7 bob ochr, pêl-droed a phêl-rwyd.

Bydd y penwythnos yn cloi ar y nos Sadwrn gyda gig yng nghlwb nos Undeb y Myfyrwyr, sydd newydd ail-agor ar Gampws Singleton wedi buddsoddiad o £1.3 miliwn. Bydd y bandiau Gwilym, Mellt a FRMAND yn perfformio.

Dywedodd Macsen Davies, Swyddog Materion y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Rydyn ni yn Undeb Myfyrwyr Abertawe mor falch o groesawu'r Eisteddfod Ryng-golegol 'nôl i'r Brifysgol. Mae'n fraint i mi fel Swyddog Materion y Gymraeg i fod yn rhan o'r trefniadau gyda chefnogaeth staff Academi Hywel Teifi ac rydyn ni'n edrych ymlaen at sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg Cymru a thu hwnt yn mwynhau penwythnos o gystadlu a chymdeithasu ymysg ei gilydd. Bydd hi'n benwythnos bythgofiadwy ym Mhrifysgol Abertawe!”

Meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “Bydd dathliadau Gŵyl Ddewi ar gampysau Prifysgol Abertawe yn hynod fywiog eleni gyda channoedd o fyfyrwyr prifysgolion Cymru yn ymweld â ni ar gyfer cystadlaethau chwaraeon a'r Eisteddfod Ryng-golegol. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at estyn croeso cynnes i bawb i ddinas Abertawe a darparu llwyfan arbennig ar gyfer cystadlu brwd, cymdeithasu â ffrindiau hen a newydd, a dathlu'r diwylliant Cymraeg a Chymreictod."

Rhannu'r stori