Pum llaw dde a breichiau wedi'u hymestyn yn yr awyr

Mae effeithlonrwydd y cyflenwad ocsigen i feinweoedd yn ffactor o ran difrifoldeb afiechydon pwysig fel Covid-19 a chyflyrau'r galon.

Mae gwyddonwyr eisoes yn gwybod bod y berthynas rhwng hyd mynegfys a bys modrwy unigolyn, a elwir yn gymhareb 2D:4D yn cydberthyn â pherfformiad wrth redeg hirbell, oedran wrth gael trawiad ar y galon a difrifoldeb Covid-19.

Nawr mae arbenigwr cymhareb bysedd ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro John Manning, wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr i ystyried y pwnc yn agosach.

Mae eu canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi gan y cyfnodolyn o fri, yr American Journal of Human Biology.

Dadansoddodd yr ymchwil 133 o chwaraewyr pêl-droed proffesiynol wrth iddynt gael cyfres o fesuriadau'r corff a oedd yn cynnwys mesur hyd bysedd o sganiau dwylo. Hefyd, gwnaethant gwblhau prawf cardio-pwlmonaidd cynyddrannol tan iddynt flino eu hunain ar felin draed.

Meddai'r Athro Manning, o'r tîm ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth (A-STEM): "Gyda'n partneriaid o gampws Cyprus Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn, rydym wedi egluro'r berthynas rhwng 2D:4D a metaboledd ocsigen mewn sampl o athletwyr sydd wedi'u hyfforddi'n dda.

"Mae gan y chwaraewyr sydd â bysedd modrwy hir (4D) o'u cymharu â'u mynegfysedd (2D) fetaboledd ocsigen effeithlon fel eu bod yn cyrraedd defnydd mwyafsymaidd o ocsigen mewn prawf cardio-pwlmonaidd cynyddrannol tan iddynt flino ar felin draed."

Credir bod bysedd modrwy hir o’u cymharu â mynegfysedd yn arwydd o lefelau testosteron uchel yn y groth. Mae testosteron yn cael effeithiau ar fetaboledd ocsigen drwy ei ddylanwad ar y cynhyrchwyr ynni (mitocondria) mewn celloedd.

Ychwanegodd:  "Mae ein canfyddiadau yn gyson â'r rhai o redeg hirbell, lle mae 4D hir yn gysylltiedig â pherfformiad uchel, a chlefyd y galon a Covid-19 lle mae 4D hir yn gysylltiedig â difrifoldeb isel y clefyd.

"Yn gyffredinol, mae ein hastudiaeth yn dangos gwerth defnyddio athletwyr iach sydd wedi'u hyfforddi'n dda i egluro prosesau metabolaidd sy'n bwysig o ran canlyniadau clefydau."

Mae'r tîm yn dweud bod angen rhagor o waith nawr i feintioli'r cysylltiadau hyn mewn menywod. 

Mae ymchwil flaenorol yr Athro Manning wedi archwilio sut y gallai'r gwahaniaeth mewn hyd bys rhwng llaw chwith a llaw dde unigolyn ddarparu gwybodaeth hanfodol am ganlyniadau ar ôl dal Covid-19. 

Gallwch ddarllen y papur yma: The associations between digit ratio (2D:4D and right – left 2D:4D), maximal oxygen consumption and ventilatory thresholds in professional male football players

 

Rhannu'r stori