Ffion Evans

Ffion Evans

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
BSc Biocemeg

Wrth benderfynu ar brifysgol, roedd y cyfle i astudio trwy’r Gymraeg yn bwysig iawn i mi. Roedd Prifysgol Abertawe yn cynnig y cwrs Biocemeg yn rhannol trwy’r Gymraeg. Wrth ddod i ddiwrnod agored roedd y campws yn teimlo’n gartrefol i mi ac roedd y staff yn gyfeillgar, yn gefnogol ac yn frwdfrydig iawn am y cwrs.

Yn yr ysgol, Bioleg a Chemeg oedd fy hoff bynciau. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y newidiadau sy’n digwydd yn y corff wrth ddioddef o glefydau gwahanol, yn enwedig cyflyrau niwroddirywiol. 

Felly, roedd astudio Biocemeg yn ehangu fy nealltwriaeth o’r pynciau yma a chefais gyfle i wneud prosiect ymchwil ar glefyd niwroddirywiol yn fy mhedwaredd flwyddyn.

Roedd parhau i astudio yn rhannol trwy’r Gymraeg yn y Brifysgol yn teimlo fel cam naturiol i mi. Wrth astudio trwy’r Gymraeg roeddwn i yn rhan o grŵp tiwtorial cyfrwng Cymraeg a ches i’r cyfle i dderbyn rhai o fy narlithoedd trwy’r Gymraeg, a chymorth mewn sesiynau labordy. Ges i’r cyfle anhygoel o gael mynd ar leoliad i Brifysgol Caerdydd yn fy mhedwaredd flwyddyn i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil gyda goruchwyliwr cyfrwng Cymraeg.

Cefais Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn fy nhair blynedd gyntaf a Bwrsari Academi Hywel Teifi yn fy mlwyddyn olaf. Mae’r arian ychwanegol yn gefnogaeth enfawr wrth brynu adnoddau a helpu gyda chostau byw a theithio wrth astudio. Roedd yr arian ychwanegol wir wedi helpu i leihau’r pwysau ariannol!

Dwi wir yn annog myfyrwyr sy’n meddwl astudio trwy’r Gymraeg i wneud hynny! Dwi wedi derbyn llu o gyfleoedd wrth astudio trwy’r Gymraeg gan gynnwys bod yn llysgennad ar gyfer y Coleg Cymraeg yn fy ail flwyddyn a derbyn Tystysgrif Sgiliau Iaith. Mae astudio trwy’r Gymraeg yn agor drysau i ti!