Biocemeg a Geneteg, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Deall Prosesau Moleciwlaidd a Genetig Bywyd

Students in lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae bioleg foleciwlaidd yn bwnc sy’n tyfu ac sy'n cael effaith enfawr ar nifer o feysydd gwyddonol, gan gynnwys astudio a thrin clefydau dynol, datblygu fferyllol, a'r perthnasoedd cymhleth rhwng ein hamgylchedd a'n hunain.

Mae'r radd rynddisgyblaethol cyd-anrhydedd hon yn cyfuno dwy ddisgyblaeth gyflenwol sy'n gorgyffwrdd, gan sicrhau eich bod chi'n cael gwybodaeth fanwl am dechnegau ac ymchwil uwch bioleg foleciwlaidd, sef y sylfaen ar gyfer deall pob math o fywyd.

Byddwch yn dysgu am y prosesau genetig sy'n digwydd mewn organebau byw, ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar y lefel isgellog a moleciwlaidd, gan ennill dealltwriaeth fanwl o swyddogaeth fiocemegol organebau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.

Hefyd, byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect rhagorol, gan ddysgu sut i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pam Biocemeg a Geneteg ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn astudio yn un o Ysgolion Meddygaeth mwyaf blaenllaw y DU, ar ein Campws Parc Singleton, mewn parcdir hyfryd â golygfeydd dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr.

Abertawe oedd un o'r prifysgolion cyntaf yn y DU i gyflwyno geneteg fel disgyblaeth BSc yn y 1960au, felly mae gennym hanes hir sydd wedi'i barchu yn y maes hwn.

Mae staff academaidd ar y rhaglen yn weithgar mewn amrywiaeth eang o feysydd ymchwil geneteg, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac ymarfer arloesol. Cynhelir sgyrsiau ymchwil rheolaidd gyda staff Prifysgol Abertawe a siaradwyr gwadd arbenigol o brifysgolion eraill, byd diwydiant, y GIG a sefydliadau ymchwil, gan gynnig gwybodaeth ychwanegol a dealltwriaeth hanfodol o'r sector.

Yn ystod eich amser yma, bydd gennych gyfleoedd i fanteisio ar gyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys cyfarpar bioddadansoddi, megis cromatograffaeth hylifau perfformiad uchel, cromatograffaeth nwy, sbectrometreg màs, cyfarpar dadansoddi DNA a phroteinau a dadansoddi delweddau ar gyfrifiadur ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellol.

Nodau ein rhaglen biocemeg a geneteg yw:

  • Sicrhau bod gennych yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi i weithio mewn amrywiaeth o yrfaoedd neu i ymgymryd ag ymchwil neu astudiaethau pellach ym meysydd biocemeg, geneteg, gwyddoniaeth, meddygaeth a diwydiannau biotechnoleg eraill.
  • Eich galluogi i gyflwyno, deall, gwerthuso a dehongli data ansoddol a meintiol, datblygu dadleuon a llunio barn, yn seiliedig ar y cysyniadau moleciwlaidd sylfaenol sy'n berthnasol i gymhwyso geneteg mewn meddygaeth.
  • Eich trawsnewid yn fyfyriwr graddedig sydd â'r rhinweddau angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, gan gynnwys gwybodaeth arbenigol, cyfrifoldeb personol, y gallu i wneud penderfyniadau mewn cyd-destunau cymhleth ac ansicr a'r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun.
  • Meithrin a datblygu'r sgiliau a'r arferion myfyriol sy'n angenrheidiol i gefnogi dysgu gydol oes.  

Eich profiad ym maes Biocemeg a Geneteg

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi astudio modiwlau craidd ym maes y gwyddorau biofoleciwlaidd, ochr yn ochr â modiwlau arbenigol sy'n ymwneud â datblygiadau ym maes biocemeg.

Mae'r pynciau yn cynnwys ffisioleg, imiwnoleg, cemeg, biocemeg, niwrowyddoniaeth, ffarmacoleg, tocsicoleg, economeg ffarmacoleg a geneteg, ochr yn ochr ag arbenigeddau pwnc sy'n cynnwys biocemeg, imiwnopatholeg, biowybodeg, meddygaeth aildyfu a geneteg canser.

Caiff ymagwedd integredig ei mabwysiadu at addysgu ac asesu, gan ymgorffori sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy wrth archwilio egwyddorion craidd, yn ogystal â chwestiynau gwyddonol sy'n dod i'r amlwg. Mae'r gweithgarwch addysgu'n tynnu ar yr arbenigedd ymchwil rhagorol a geir yn yr Ysgol Feddygaeth, gan sicrhau y gallwch ddysgu am y datblygiadau diweddaraf a mwyaf arloesol yn y maes.

Yn dilyn sylfaen mewn gwyddoniaeth sylfaenol a sgiliau ymarferol craidd yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn mynd i'r afael â phynciau mwy cymhleth yn eich ail flwyddyn megis bioystadegau, imiwnoleg, agweddau clinigol ar y ddisgyblaeth, ac ymagwedd a thechnegau biofoleciwlaidd a ddefnyddir mewn meysydd ymchwil modern.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn archwilio meysydd mwy arbenigol yn seiliedig ar ddiddordebau ymchwil gweithredol yn yr Ysgol Feddygaeth, a chaiff y meysydd hyn eu harwain gan staff sy'n weithredol o ran ymchwil. Nod arall ar gyfer y flwyddyn hon yw datblygu eich sgiliau ymchwil annibynnol, sy'n berthnasol i'ch dyheadau gyrfa dewisol, a hynny drwy gwblhau eich prosiect traethawd hir eich hunain, a fydd yn tynnu ar yr wybodaeth a'r sgiliau rydych chi wedi'u meithrin drwy gydol y cwrs.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. 

Mae'r radd MSci 4 blynedd hon yn radd israddedig uwch sy'n cynnwys blwyddyn meistr integredig. Treulir y flwyddyn ychwanegol yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen opsiynol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc neu MSci.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Nod cyffredinol y rhaglen hon yw hyfforddi gwyddonwyr gan sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth graidd angenrheidiol a'r sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd y bydd eu hangen arnynt i lwyddo yn amgylcheddau byd-eang newidiol y gwyddorau meddygol a bywyd.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn elfen annatod o'r cwrs cyfan. Mae'n hanfodol bod pob gwyddonydd yn gallu dadansoddi a chyflwyno data - felly mae holl brosiectau'r flwyddyn olaf yn cynnwys elfen o ddadansoddi data i sicrhau y gallwch ddatblygu sgiliau perthnasol yn y maes hwn.

Bydd amrywiaeth o gyfleoedd unigryw ar gael i chi, gan gynnwys rhwydweithio ag academyddion, ymchwilwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol profiadol fel rhan o'ch modiwlau, prosiectau blwyddyn olaf, lleoliadau gwaith a/neu interniaethau.

Mae gradd mewn Biocemeg a Geneteg yn agor y drws i amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous mewn sectorau amrywiol gan gynnwys: 

  • Biotechnoleg ddiwydiannol
  • Cynhyrchion fferyllol
  • Diagnosteg
  • Esblygiad
  • Biowybodeg

Ar ôl graddio, gallwch fynd ymlaen i ymgymryd ag amrywiaeth o rolau, gan gynnwys yn y meysydd canlynol:

  • Sector masnachol y gwyddorau meddygol a bywyd (ymchwil, gwerthu a marchnata ar gyfer cwmnïau fferyllol, technegydd labordy)
  • Ymchwil yn y gwyddorau meddygol a bywyd (myfyriwr PhD, technegydd mewn sefydliad academaidd, y sector ymchwil nid-er-elw)
  • Rheoleiddio'r gwyddorau meddygol a bywyd (yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yr Asiantaeth Safonau Bwyd)
  • Cymhwyso fel gweithiwr iechyd proffesiynol (ar ôl rhaglen astudio bellach, megis Meddygaeth i Raddedigion, Cydymaith Meddygol, cyrsiau milfeddygol neu ddeintyddol).
  • Cymhwyso fel gweithiwr cyfreithiol proffesiynol (ar ôl rhaglen astudio bellach megis y Gyfraith i Raddedigion, yn enwedig ar gyfer gwaith sy'n ymwneud ag eiddo deallusol a phatentau).
  • Addysgu'r gwyddorau a thechnoleg (ar ôl rhaglen astudio bellach, mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach)

Biocemeg a Geneteg, BSc (Anrh)

Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn ar Leoliad, BSc (Anrh)

Biochemistry and Genetics with a Foundation Year and Placement Year, BSc (Anrh)

Biocemeg a Geneteg, MSci (Anrh)

Biochemistry and Genetics with a Foundation Year, MSci (Anrh)

Biochemistry and Genetics with a Year Abroad, MSci (Anrh)

Biochemistry and Genetics with a Placement Year, MSci (Anrh)