Data Science and Population Health, BSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students on computers

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein BSc Gwyddor Data ac Iechyd y Boblogaeth yn cyfuno pŵer dadansoddol gwyddor data â'r gwyddorau cymdeithasol ac iechyd, er mwyn mynd i'r afael â heriau cymhleth cynyddol ym maes iechyd cyhoeddus. 

Byddwch yn meithrin yr wybodaeth a'r sgiliau i ddadansoddi a dehongli data i ganfod patrymau, llunio rhagfynegiadau a rhoi cyfeiriad wrth wneud penderfyniadau, gan ddatblygu sgiliau dadansoddi a datrys problemau cryf, ynghyd â sylfaen gref mewn cyflwyno gwasanaethau iechyd a chyhoeddus.  

Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso'r offer hynny fel dysgu peirianyddol, deallusrwydd artiffisial, delweddu data a modelu ystadegol i ddatrys problemau cymhleth. Mae astudio'r dulliau hyn wedi'i gynnwys yng nghydran iechyd y boblogaeth y radd sy'n cynnwys pynciau allweddol sy'n rhoi sylfaen gadarn mewn pynciau iechyd y cyhoedd gan gynnwys epidemioleg, demograffeg, iechyd y cyhoedd a gwybodeg iechyd.

Mae'r cydbwysedd rhwng sgiliau technegol a gwybodaeth pwnc yn creu graddedigion sydd wedi'u harfogi'n dda i greu effaith mewn llawer o feysydd gyda sgiliau technegol trosglwyddadwy a hyfedredd wrth ddefnyddio meddalwedd er mwyn gweithio gyda data a’i drafod

Pam Data Science and Population Health yn Abertawe?

Mae ein BSc Gwyddor Data ac Iechyd y Boblogaeth ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cyfuno pŵer dadansoddol gwyddor data â'r gwyddorau cymdeithasol ac iechyd i fynd i'r afael â heriau iechyd y cyhoedd cymhleth.

Mae'r maes rhyngddisgyblaethol hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio ymagweddau a lywir gan ddata i wella canlyniadau iechyd y boblogaeth, llywio polisi ac arwain penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Byddwch yn dysgu am gysyniadau gwyddor data sylfaenol, gan gynnwys dadansoddi data, strwythurau data cysylltiedig, dysgu peirianyddol, modelu a rhaglennu ystadegol sy'n hollbwysig wrth weithio gyda setiau data iechyd mawr. Mae'r gydran iechyd y boblogaeth yn cynnwys pynciau allweddol mewn iechyd y cyhoedd, epidemioleg, iechyd digidol, anghydraddoldebau iechyd, penderfynyddion cymdeithasol iechyd, systemau gofal iechyd a pholisi.

Cewch eich addysgu gan academyddion ac ymchwilwyr blaenllaw ym maes gwyddor data, ystadegau, epidemioleg, dysgu peirianyddol a chysylltedd data ym maes gofal iechyd, sydd wedi helpu i sicrhau enw da rhyngwladol Prifysgol Abertawe am ymchwil ac addysgu ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg. Rydym yn gartref i Fanc Data SAIL, prosiect arloesol i alluogi cloddio data gofal iechyd Cymru ar raddfa fawr mewn amgylchedd diogel.

Eich Profiad Data Science and Population Health

Byddwch yn rhan o gymuned groesawgar a chefnogol o'r diwrnod cyntaf. Mae ein Cymdeithas Iechyd y Boblogaeth a arweinir gan fyfyrwyr yn dod â phobl ynghyd drwy ddigwyddiadau cymdeithasol, cymorth i gyfoedion, a chyfleoedd i gydweithio y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Bydd gennych hefyd fynediad at sesiynau galw heibio rheolaidd a gynhelir gan ein partneriaid Ymgysylltu â Myfyrwyr a Chynwysoldeb, lle gallwch gysylltu â staff academaidd mewn lleoliad hamddenol, creu eich rhwydwaith, rhannu eich syniadau a chael mwy o gymorth pan fydd ei angen arnoch.

Mae Gwyddor Data'n faes hybrid, sy'n dod â chysyniadau a dulliau ynghyd o ddau faes astudio penodol, mathemateg a chyfrifiadureg, i ddatrys problemau gan ddefnyddio dulliau rhifiadol.  Gan gyfuno pynciau megis cysylltedd data, delweddu data, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial. Yn Abertawe, mae gennym arbenigedd yn yr holl feysydd hyn, gyda staff addysgu rhagorol yn rhan weithgar o waith ymchwil sy'n ymwneud ag iechyd y boblogaeth.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau'n ymwneud â meysydd gwyddor data ac iechyd y boblogaeth:

  • Strwythurau Data a Chysylltedd Data 
  • Dysgu Peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial
  • Delweddu Data
  • Ystadegau a Dadansoddi Data
  • Iechyd Cyhoeddus ac Epidemioleg
  • Gwybodeg Iechyd

Mae ein rhaglen hefyd yn rhannu hanner ei modiwlau â'r rhaglen Gwyddorau Meddygol ac Iechyd y Boblogaeth bresennol.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Bydd graddedigion ein gradd BSc mewn Gwyddor Data ac Iechyd y Boblogaeth wedi’u paratoi i gael gyrfaoedd mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau, ond yn benodol ym meysydd iechyd cyhoeddus a dadansoddeg gofal iechyd, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddylanwad polisi ac ymarfer, a gwella gofal cleifion a lles cyffredinol poblogaethau. 

Mae ein graddedigion mewn sefyllfa dda i lansio gyrfaoedd cyffrous ar draws dadansoddeg gofal iechyd, iechyd y cyhoedd, ymchwil a diwydiant. Wedi'u harfogi â sgiliau y mae galw amdanynt mewn iechyd y boblogaeth, bydd myfyrwyr yn gymwys i gael rolau llawn effaith yn y GIG, sefydliadau data iechyd a chyrff y llywodraeth fel dadansoddwyr data, swyddogion ymchwil ac arbenigwyr gwybodeg.

Mae gennych y dewis hefyd i barhau â'ch taith ym myd academaidd neu ymchwil, gan adeiladu ar y sgiliau ymchwil cryf rydych eisoes wedi'u hennill.  Neu, gallech fynd â'ch sgiliau gwyddor data y mae galw mawr amdanynt yn syth i fyd diwydiant, gan ddefnyddio profiad o'r byd go iawn i ddatrys heriau a chreu gyrfa lwyddiannus.

Data Science and Population Health, BSc