Biomedical Science, BSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Student in lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r gwyddorau biofeddygol yn un o'r meysydd mwyaf deinamig ac amrywiol mewn gwyddoniaeth fodern, ac yn un o  bileri sylfaenol ymarfer meddygol modern. Mae'n sail i bopeth, o ddarparu cynhyrchion gwaed yn ddiogel i gleifion sy'n ddifrifol wael, i ganfod achosion o glefydau, a sgrinio am arwyddion cynnar cyflyrau megis canser gwddf y groth.

Mae'n chwarae rôl hanfodol mewn gofal iechyd modern drwy gefnogi diagnosis, monitro a thrin clefydau. Mae gwelliannau cyflym mewn meysydd megis genomeg, imiwnotherapi a meddygaeth fanwl yn trawsnewid sut mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu, gan gynyddu'r galw am raddedigion sydd â gwybodaeth wyddonol gref a sgiliau labordy ymarferol. 

Ar y cwrs hwn byddwch chi'n meithrin sylfaen gref ym meysydd craidd y gwyddorau biofeddygol gan gynnwys anatomeg a ffisioleg ddynol, biocemeg, bioleg celloedd a geneteg. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau astudio a labordy hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn gwyddor feddygol..Bydd y meysydd pwnc craidd hyn yn eich paratoi chi i symud i feysydd labordy clinigol arbenigol a datblygiad proffesiynol.

Pam Biomedical Science yn Abertawe?

Mae'r rhaglen hon wedi'i dylunio i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o fioleg a chlefydau dynol, ochr yn ochr â'r cymwyseddau dadansoddol a thechnegol sydd eu hangen mewn lleoliadau biofeddygol cyfoes. 

Caiff ein rhaglen ei haddysgu gan academyddion arbenigol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau gwyddor fiofeddygol, y mae llawer ohonynt yn meddu ar Gymrodoriaeth neu Uwch-gymrodoriaeth o’r Academi Addysg Uwch i gydnabod eu rhagoriaeth addysgu.

Mae nifer sylweddol hefyd yn aelodau o’r Sefydliad Gwyddoniaeth Fiofeddygol, gan sicrhau bod eich dysgu'n cael ei lywio gan y  datblygiadau gwyddonol a'r safonau proffesiynol diweddaraf. 

Bydd eich dysgu'n cael ei gyfoethogi drwy, wyddonwyr biofeddygol proffesiynol cofrestredig sy'n addysgu ochr yn ochr â'n staff academaidd, gan ddod ag arbenigedd y byd go iawn yn uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth.  Mae hyn yn golygu y byddwch yn elwa o addysgu o ansawdd uchel, wedi’i lywio gan ymarfer ac ymchwil, sy'n berthnasol yn uniongyrchol i yrfaoedd yn y dyfodol mewn gwyddor fiofeddygol a’r tu hwnt.   

Eich Profiad Biomedical Science

Drwy gydol y rhaglen BSc 3 blynedd o hyd, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau'n gynyddol mewn gwyddor fiofeddygol.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu sylfaen gref yn yr egwyddorion gwyddonol allweddol sy'n sail i arbenigeddau labordy. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn symud ymlaen i ddisgyblaethau clinigol, gan gryfhau eich dealltwriaeth o brosesau clefyd drwy ymchwilio iddynt yn y  labordy.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil copa, gan ddatblygu eich sgiliau ymchwil a dadansoddi annibynnol. Byddwch hefyd yn integreiddio ac yn dyfnhau eich dealltwriaeth ar draws arbenigeddau clinigol, wrth archwilio ymarfer proffesiynol, arloesi newydd mewn gwyddor fiofeddygol a rôl iechyd cyhoeddus ac epidemioleg.

Mae gan y cwrs hwn ymagwedd amlddisgyblaethol, gan eich galluogi i archwilio gwyddor fiofeddygol o'r lefel foleciwlaidd a chellol hyd at systemau corff llawn mewn iechyd a chlefydau. Mae strwythur modiwlaidd yn cefnogi'r cynnydd hwn, gyda phob blwyddyn yn adeiladu ar y flwyddyn flaenorol i sicrhau datblygiad cyson eich gwybodaeth wyddonol, eich gallu technegol, eich sgiliau meddwl yn feirniadol a’ch sgiliau proffesiynol.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae galw cryf a chynyddol am raddedigion y gwyddorau biofeddygol ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae gwyddonwyr biofeddygol yn chwarae rôl allweddol  mewn systemau gofal iechyd megis y GIG a labordai'r sector preifat, lle mae'r rhan fwyaf o benderfyniadau clinigol yn dibynnu ar ddata sy’n cael ei greu yn y labordy.

Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i roi i chi’r wybodaeth wyddonol, y sgiliau ymarferol a'r priodoleddau proffesiynol sydd eu hangen i ddeall iechyd a chlefydau dynol, ac i ddilyn ystod o yrfaoedd ar draws gofal iechyd, ymchwil a'r sector gwyddor bywyd.

Mae graddedigion y Gwyddor Fiofeddygol yn mynd ymlaen i weithio mewn meysydd megis gofal iechyd, ymchwil, diwydiant, rheoleiddio ac addysg. Mae llwybrau gyrfaoedd nodweddiadol yn cynnwys:

  • Gwyddonydd Biofeddygol/y GIG/clinigol (gydag astudiaethau/hyfforddiant pellach)
  • Gwasanaethau iechyd cyhoeddus
  • Biotechnolegydd
  • Gwyddonydd fforensig (gydag astudiaethau pellach)
  • Meddyg (ar ôl cwblhau gradd Meddygaeth i Raddedigion)
  • Microbiolegydd
  • Cydymaith Meddygol (gydag astudiaethau pellach)
  • Datblygu cynhyrchion neu sicrhau ansawdd ym myd diwydiant
  • Gwyddonydd ymchwil (efallai bydd angen cwblhau gradd bellach megis MSc neu PhD)
  • Rolau mewn diwydiant, yn y byd academaidd neu yn labordai'r llywodraeth, megis uwch-wyddonydd neu arbenigwr technegol
  • Gwyddor reoleiddiol (e.e., Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA))
  • Ysgrifennwr gwyddonol 
  • Athro ysgol uwchradd neu addysg bellach (gydag astudiaethau pellach)

Biomedical Science, BSc