Beth yw Gwyddorau Meddygol Cymhwysol?

Bydd ein gradd yn y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yn datblygu dealltwriaeth fanwl, systematig sy’n sail i feddygaeth, gan ddarparu sylfaen ddelfrydol ar gyfer meithrin gyrfaoedd amrywiol fel ymchwil labordy, meddygaeth a menter fasnachol.

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn dilyn ystod eang o feysydd pwnc fel anatomeg ddynol, ffisioleg, bioleg celloedd, niwrowyddoniaeth, ffarmacoleg, a pherthnasedd cymhwysol a chlinigol yr wybodaeth hon.

Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol.

Canllaw UCAS Extra

Ein Straeon myfyrwyr

Costas Demetriou
Llun Costas

"Rhagorodd y profiad ar fy nisgwyliadau o bell ffordd!

Cawson ni gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel efelychiad llawfeddygol, lle dysgon ni sgiliau fel pwytho a defnyddio endosgop, melinau trafod, arsylwi ar lawfeddygaeth mewnblannu falf feitrol a histoleg a gwaith labordy.

Helpodd y rhaglen fi i feithrin amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r maes meddygol hoffwn i weithio ynddo, yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd. Roedd cael fy annog i archwilio ffyrdd newydd o feddwl yn fy herio, gan wella fy sgiliau meddwl yn feirniadol a dadansoddi. Dwi wedi cael fy ysbrydoli i weithio'n fwy caled ac i gyflawni uchelgeisiau a nodau newydd."

Darganfod mwy am Stori myfyriwr Costas

Poornima Ramesh Hope Henry

PA YRFAOEDD A ALLAI FOD AR GAEL IMI AR ÔL IMI RADDIO?

Trwy ein tri maes cyflogadwyedd, bydd y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yn eich galluogi i gyrraedd ystod o yrfaoedd cyffrous, o ymchwil i ddatblygu cyffuriau a dyfeisiau a’r proffesiynau iechyd (ar ôl astudiaethau pellach), fel Meddygaeth, Deintyddiaeth neu fel Milfeddyg. Y tri maes cyflogadwyedd yw:

  • Ymchwil Feddygol
  • Menter ac Arloesi
  • Gwyddorau Meddygol Ymarferol (ein Llwybr i Feddygaeth)

Trwy deilwra’ch astudiaethau, gallwch chi weithio tuag at yr yrfa yr ydych yn ei dymuno a manteisio ar eich prosiect ymchwil flwyddyn olaf i’r eithaf.

Llwybrau at Feddygaeth

Mae'r cwrs hwn hefyd yn un o'n graddau Llwybrau at Feddygaeth gan gynnig y cyfle am gyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth (i Raddedigion), gan eich helpu i gyflawni eich uchelgais i astudio Meddygaeth a dod yn Feddyg. Maent yn ddelfrydol i chi os ydych:

 

Darganfyddwch mwy - Llwybrau i Feddygaeth

Archwiliwch opsiynau eich cwrs ...

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am bob un o'n cyrsiau. Ar bob tudalen cwrs fe welwch wybodaeth am fodiwlau, gofynion mynediad, staff addysgu, ffioedd dysgu a sut mae ein Llwybrau i Feddygaeth yn gweithio.