Pam astudio Ffiseg Radiotherapi ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae ein BSc mewn Ffiseg Radiotherapi wedi'i achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gofal Iechyd a Gwyddoniaeth a bydd yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa werth chweil a medrus iawn yn y proffesiwn gofal iechyd fel dosimetrydd mewn ffiseg radiotherapi.

Mae llawer o'n staff academaidd hefyd yn wyddonwyr gofal iechyd gweithredol, gan ddarparu cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol.

Os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi’u talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth o hyd at £4,491 a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

Myfyriwr a darlithydd yn edrych ar gyfrifiadur

Ble allai Ffiseg Radiotherapi ym Mhrifysgol Abertawe mynd â chi?

Mae rhagolygon swyddi yn ardderchog, gyda 100% o'n graddedigion Gwyddor Gofal Iechyd mewn cyflogaeth, astudio a/neu weithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA, 2022).

Tua £24,214 yw cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer dosimetryddion clinigol, gan godi i £43,772.

Mae yna hefyd lawer o gyfleoedd i weithio ym meysydd ymchwil, addysg, rheolaeth, a'r sector preifat.

Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i wneud cais am aelodaeth o'r corff rheoleiddio, y Gofrestr o Dechnolegwyr Clinigol, a mynd i mewn i'r gweithle fel ymarferydd annibynnol.

Myfyriwr a darlithydd

Gweminar Ffiseg Radiotherapi

Ymunwch â Dan Murray, darlithydd ffiseg Radiotherapi Prifysgol Abertawe, am sesiwn rithwir yn ymwneud ag astudio Ffiseg Radiotherapi ym Mhrifysgol Abertawe.

Gradd wedi'i ariannu'n llawn

Gallai dewis dilyn eich angerdd am ofal iechyd dalu. Ariennir ein gradd Ffiseg Radiotherapi yn llawn trwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.

Yr hyn y gallai hyn ei olygu i chi yw, os byddwch yn ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich hyfforddiant yn cael ei gynnwys yn llawn gan y , yn ogystal â chyllid cynhaliaeth o hyd at £4,491 a benthyciad cyfradd ostyngol gan Gyllid Myfyrwyr.

Darganfod mwy am gynllun bwrsariaeth y GIG

Am Ddarganfod Mwy am Abertawe

Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y GIG? Treuliwch yr amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein rhith-daith, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr cyfredol am sut brofiad yw astudio yn Abertawe a sicrhewch eich bod chi'n cofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf lle gallwch, yn bersonol, brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau.