Beth yw gwyddonydd gofal iechyd?

Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn gweithio i ddiagnosio, monitro, atal, rheoli a thrin salwch a chyflyrau gan ddefnyddio dealltwriaeth o’r gwyddorau dynol, gan gynnwys bioleg, cemeg a ffiseg. Maent yn defnyddio eu harbenigedd i wella gofal cleifion ac achub bywydau, neu i helpu pobl i fyw'n annibynnol drwy adsefydlu, naill ai fel cyswllt uniongyrchol i gleifion neu mewn rôl gefnogol.

Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol.

Canllaw UCAS Extra

Ein Straeon myfyrwyr

Harriet Wesson
Llun Harriet Wesson

"...mae'r cwrs hwn yn caniatáu i mi ymchwilio i fyd yr ymennydd a'r system nerfol wrth gyfathrebu'n weithredol â chleifion. Fe wnaeth profiad gwaith fy helpu i gyfuno darlithoedd â phrofiad clinigol bywyd go iawn tra mewn amgylchedd diogel a chymwynasgar. Roeddwn i’n gallu teithio Cymru am ddim drwy weithio’n galed yn ystod yr wythnos ac archwilio pob ardal newydd ar y penwythnosau."

Darganfod mwy am stori myfyriwr Harriet Wesson

Beth sy'n Gwneud y Gwyddorau Gofal Iechyd yn Abertawe yn Unigryw?

Myfyrwyr Gwyddor Gofal Iechyd

Rydym yn y 10 uchaf yn y DU am Anatomeg a Ffisioleg ac yn 1af ar gyfer Rhagolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2024) ac mae ein cyrsiau wedi’u hachredu’n llawn gan gyrff diwydiant proffesiynol. Mae ein cyfleusterau rhagorol yn darparu efelychiadau realistig o’r gweithle ac mae llawer o’n staff academaidd yn y Gwyddorau Iechyd yn glinigwyr wrth eu gwaith, gan ddarparu mewnwelediad ac arbenigedd proffesiynol amhrisiadwy.

Rydym yn hyfforddi ar draws amrywiaeth o rolau clinigol cysylltiedig, sy'n rhoi mynediad i chi at gyfoeth o brofiad clinigol gan ein staff addysgu lle bydd ein hymrwymiad i addysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn eich rhoi ar flaen y gad yn eich dewis o ddisgyblaeth gwyddorau gofal iechyd ac yn eich paratoi i wneud gwahaniaeth fel rhan o dîm clinigol.

Graddau a Gyllidir yn Llawn

Gallai dewis i ddilyn eich brwdfrydedd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed. Mae hamrywiaeth hwn o raddau wedi'u hariannu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.

Golyga hyn os byddwch chi'n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich ffioedd addysgu yn cael eu talu'n llawn gan Fwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr. 

Rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru

Ein Graddau Gwyddorau Gofal Iechyd

Clywedeg

Bydd ein gradd Clywedeg yn rhoi dealltwriaeth lawn a chyfannol i chi ar sut i asesu gallu clywedol a swyddogaethau cydbwysedd gan ddefnyddio'r offer diagnostig a’r cymwysiadau meddalwedd diweddaraf. Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn arsylwi ar glinigau yn ein Hacademi Iechyd a Lles bwrpasol, yn cael profiad mewn lleoliadau masnachol ac yn magu sgiliau a hyder mewn lleoliadau gwaith clinigol mewn ysbytai.

Tudalen y cwrs: Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg), BSc (Anrhydedd)

Wrth astudio Clywedeg, byddwch yn gallu dewis derbyn cyllid o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, ac felly yn ymrwymo i weithio i GIG Cymru am nifer benodol o flynyddoedd, neu drwy Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr.

Ffisioleg Gardiaidd Peirianneg Feddygol Meddygaeth Niwclear Niwroffisioleg Ffiseg Radiotherapi Ffiseg Ymbelydredd Ffisioleg Anadlu a Chysgu Peirianneg Adsefydlu