Pam astudio Meddygaeth Niwclear ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae ein cwrs BSc mewn Meddygaeth Niwclear yn cael achredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd ac yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa fedrus, gwerth chweil yn y proffesiwn gofal iechyd fel technolegydd ffiseg feddygol/technolegydd meddygaeth niwclear.

Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol.

Student and lecturer

Ble gallai Meddygaeth Niwclear yn Abertawe fynd â chi?

Mae rhagolygon swyddi yn ardderchog, gyda 100% o'n graddedigion Gwyddor Gofal Iechyd mewn cyflogaeth, astudio a/neu weithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA, 2022).

Tua £24,214 yw cyflog cychwynnol y GIG i Dechnolegwyr Ffiseg Feddygol, gan godi i £43,772. Mae yna hefyd lawer o gyfleoedd i weithio ym meysydd ymchwil, addysg, rheolaeth, a'r sector preifat.

Myfyriwr a darlithydd yn asesu claf

Gradd wedi'i ariannu'n llawn

Gallai dewis dilyn eich angerdd am ofal iechyd dalu. Ariennir ein gradd Meddygaeth Niwclear yn llawn trwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.

Yr hyn y gallai hyn ei olygu i chi yw, os byddwch yn ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich hyfforddiant yn cael ei gynnwys yn llawn gan y , yn ogystal â chyllid cynhaliaeth o hyd at £4,491 a benthyciad cyfradd ostyngol gan Gyllid Myfyrwyr.

Darganfod mwy am gynllun bwrsariaeth y GIG

Sesiynau Fyw a Gweminarau

Am Ddarganfod Mwy am Abertawe

Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y GIG? Treuliwch yr amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein rhith-daith, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr cyfredol am sut brofiad yw astudio yn Abertawe a sicrhewch eich bod chi'n cofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf lle gallwch, yn bersonol, brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau.