Pam Astudio Gwyddor Barafeddygol?

Mae gennym dros ddeng mlynedd o brofiad yn cefnogi parafeddygon sy’n ddysgwyr trwy eu taith addysgol. Mae ein cwrs wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, sy'n eich galluogi i wneud cais am statws cofrestredig ar ôl cwblhau'r cwrs.

Mae ein cwrs Gwyddor Barafeddygol yn ail yn y DU (Guardian University Guide 2024). Byddwch hefyd yn ymuno â phrifysgol sydd ymhlith y 30 Uchaf yn y DU (Guardian University Guide 2024).

Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol.

Canllaw UCAS Extra

Ein Straeon myfyrwyr

Natalie Griffiths
Llun Natalie

"Rwy' wir wedi mwynhau'r lleoliadau gwaith. Mae bod ar leoliad gwaith yn eich trosi i'ch 'swydd yn y byd go iawn' fel Parafeddyg a dyna'ch nod pan fyddwch chi'n gorffen y cwrs. Dw'i wedi bod ar leoliadau gwaith ar draws Cymru gyfan, o Wrecsam a Llanidloes yn y Gogledd, Sir Benfro yn y Gorllewin ac i lawr i Abertawe a Chaerdydd yn y De. Rwyf wedi profi ystod eang o leoliadau gwaith, o leoliadau ambiwlans i wardiau gofal lliniarol, unedau mamolaeth, theatrau a lleoliadau iechyd meddwl cymunedol ac rwyf hefyd wedi dysgu ystod eang o sgiliau clinigol ym mhob maes."

Darganfod mwy am Stori Natalie 

CYFLWYNO ANTHONY...

"Mae'r cwrs yn heriol iawn ac felly y dylai fod gan fod cyfrifoldebau parafeddyg mor fawr. Serch hynny, mwynheais y ffaith bod y cwrs wedi fy estyn a'm datblygu, gan ddarparu'r sgiliau craidd sy'n angenrheidiol i wneud y swydd. Mae'n rhaid i barafeddyg da feddu ar nifer o rinweddau ac ar frig y rhestr mae'r gallu i fod yn ddigynnwrf ac ymdopi ag unrhyw sefyllfa. Sgiliau cyfathrebu ardderchog yw’r allwedd i wneud hyn... Os gallwch gyfathrebu'n glir, gallwch helpu'r rhai sydd mewn angen. Ar hyn o bryd, dwi'n gweithio yn Sir Benfro fel Parafeddyg ac mae gen i rôl fel Parafeddyg Amddiffyn yn Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin."

Student Paramedic

Graddau a Gyllidir yn Llawn

Gallai dewis i ddilyn eich brwdfrydedd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed. Mae hamrywiaeth hwn o raddau wedi'u hariannu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.

Golyga hyn os byddwch chi'n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich ffioedd addysgu yn cael eu talu'n llawn gan Fwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr. 

Rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru

Ein Graddau Gwyddor Barafeddygol

Mae gennym ni gymaint mwy rydyn ni eisiau ei rannu gyda chi, beth am archwilio ein tudalen cwrs Gwyddorau Barafeddygol neu archebu lle ar ein diwrnod agored nesaf.