Trosolwg o'r Cwrs
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), mewn cytundeb â Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), wedi penderfynu gohirio comisiynu rhaglenni prifysgol Gwyddor Barafeddygol yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026–27.
Felly, nid yw Gwyddor Barafeddygol, BSc (Anrh) ar agor ar gyfer ceisiadau ac mae Prifysgol Abertawe wedi tynnu nôl cynigion ar gyfer mewnbwn Medi 2026.
Bydd astudio ar gyfer BSc mewn Gwyddor Barafeddygol yn rhoi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r priodoleddau hanfodol i chi ddechrau gyrfa gyffrous a gwobrwyol fel Parafeddyg Cofrestredig.
Byddwch yn dysgu am anatomeg a ffisioleg, prif systemau'r corff a'r cyflyrau sy'n effeithio arnynt, sut i asesu cleifion a nodi cyflyrau sy'n peryglu bywyd, a sut i roi cynhaliaeth bywyd.
Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth o rôl a pherthnasedd ymchwil, cysyniadau gofal cleifion, a'r egwyddorion cyfreithiol a moesegol sy'n ymwneud â gofal iechyd.
Byddwch yn astudio themâu craidd fel y gwyddorau ffisegol, bywyd a chlinigol, gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol, moeseg a'r gyfraith, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd y cyhoedd, asesu a rheoli cleifion, arweinyddiaeth, ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r pynciau hyn wedi'u plethu drwy ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a lleoliadau ymarferol, gan eich helpu i gysylltu damcaniaeth yn uniongyrchol â gofal cleifion yn y byd go iawn.
Erbyn i chi raddio, byddwch yn barod i ddarparu gofal diogel, effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y person ar draws ystod o leoliadau; gweithio'n gynhwysol gyda chleifion, teuluoedd a thimau gofal iechyd; cymhwyso tystiolaeth i wella gofal; a pharhau i ddatblygu fel ymarferydd myfyriol drwy gydol eich gyrfa.
Fel siaradwr Cymraeg, efallai byddwch yn gallu cwblhau eich lleoliadau gwaith a'ch asesiadau yn Gymraeg.