Trosolwg o'r Cwrs
Mae nyrsys iechyd meddwl yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl o bob oed a chefndir ar rai o adegau anoddaf eu bywydau.
Bydd ein cwrs gradd tair blynedd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl yn rhoi i chi’r wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i’ch galluogi i roi gofal nyrsio tosturiol o safon er mwyn gwella iechyd meddwl a lles. Yn ystod y cwrs, byddwch yn gwella gofal a thriniaeth pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd.
Byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu craff i'ch paratoi chi i weithio fel rhan o dîm sy'n cynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymunedol a therapyddion galwedigaethol.
Bydd hanner eich addysgu yn y Brifysgol ar Gampws Parc Singleton a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gysylltiadau rhagorol â byrddau iechyd Cymru a llawer o ddarparwyr gofal iechyd, felly bydd gennych fynediad at ystod eang o brofiadau clinigol ar draws de-orllewin Cymru.
Gallai'r rhain gynnwys canolfannau gofal iechyd cymunedol, ysbytai a meysydd arbenigol mewn nyrsio fforensig, plant a phobl ifanc, cyffuriau ac alcohol a phobl hŷn.
Wedi'i seilio ar athroniaeth gofal sy'n canolbwyntio ar y person, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cael ei arwain gan werthoedd, mae'r rhaglen yn pwysleisio tosturi, cynhwysiant, a phartneriaeth â phobl, teuluoedd, a chymunedau.
Ein nod yw datblygu ymarferwyr myfyriol, atebol sy'n gallu ymateb i anghenion iechyd cymhleth a newidiol cymdeithas, ac sy'n gallu cyfrannu at wella canlyniadau iechyd yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol.