Llythrennedd Digidol yn y Cwricwlwm Nyrsio

Mae'r gallu i ddeall a defnyddio gwybodaeth o amryw o ffynonellau digidol yn sgil bywyd hanfodol ar gyfer byw, gweithio a dysgu yn yr 21ain Ganrif (Health Education England, 2017). Er y gallai rhai ohonoch fod yn nerfus, ofnus neu hyd yn oed yn amheugar o'r chwyldro digidol, bydd angen i chi ddefnyddio gwybodaeth a thechnolegau digidol yn hyderus ac yn feirniadol i berfformio'n dda yn glinigol ac yn academaidd (Janssen, Stoyanov, Ferrari, & Punie, 2012).

Yma ym Mhrifysgol Abertawe mae'r Adran Nyrsio eisiau cefnogi datblygiad eich cymhwysedd wrth ddefnyddio cyfryngau digidol, gwella'ch dysgu, cymryd rhan mewn technolegau mewn ymarfer clinigol ac amddiffyn eich hun a'r proffesiwn pan fyddwch ar-lein. Mae cymhwysedd digidol yn gofyn am set benodol o sgiliau, agweddau a gwybodaeth (Janssen et al., 2012) ac mae'r cwricwlwm nyrsio wedi'i ddatblygu i wella'r set hon o briodoleddau.

Mae modd dod o hyd i fwy o wybodaeth am feddalwedd ac atebion digidol yn y Llyfrgelloedd.

Ein nod yw eich galluogi i: