Trosolwg o'r Cwrs
**Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS? Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol**
Bydd ein cwrs Therapi Galwedigaethol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.
Gweithia therapyddion galwedigaethol i rymuso pobl i ddatblygu, cynnal neu wella ystod amrywiol o weithgareddau sy'n berthnasol ac yn ystyrlon yn eu bywydau beunyddiol, o hunanofal sylfaenol gartref i weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, hobïau a mwy. Trwy gydol y cwrs integredig hwn, byddwch yn dysgu'r sgiliau i helpu pobl i oresgyn anawsterau a achosir gan salwch, anabledd, damweiniau neu heneiddio. Gallai hyn gynnwys defnyddio cymhorthion ac addasiadau, addasu tasgau neu ddatblygu sgiliau newydd.
Mae'r cwrs yn dilyn dyluniad troellog wedi'i seilio ar 5 thema cwricwlwm allweddol i'ch helpu chi i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau, y ddealltwriaeth a'r hyder sy'n ofynnol i fod yn gymwys i wneud cais i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) i ddod yn therapydd galwedigaethol cofrestredig:
- Cysyniadau Galwedigaethol ar gyfer Llesiant ac Ymarfer
- Gwella Therapi Galwedigaethol
- Lleoli Ymarfer
- Proffesiynoldeb ac Arweinyddiaeth
- Ymchwil, Ymholiad a Digideiddio