Trosolwg o'r Cwrs
*A oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am astudio Nyrsio ar ein Campws yng Nghaerfyrddin?
Rydym yn cynnal sesiynau galw heibio amrywiol dros yr ychydig fisoedd nesaf, lle gall darpar fyfyrwyr Nyrsio sgwrsio â’n tîm addysgu Nyrsio am y cwrs a bywyd fel myfyriwr Nyrsio ar ein campws ym Mharc Dewi Sant - Archebwch nawr
*Mae mynediad mis Mawrth 2024 ar gyfer y cwrs hwn wedi'i atal
Bydd ein cwrs gradd Nyrsio Oedolion a gydnabyddir yn rhyngwladol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.
Yn ystod y rhaglen BSc hon sy'n para tair blynedd, byddwch yn dysgu am anghenion cyfannol pobl o oedolaeth gynnar i henaint ac yn datblygu'r sgiliau proffesiynol i roi gofal nyrsio o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol a chymunedol.
Wrth i'r cwrs fynd rhagddo, byddwch yn datblygu'r sgiliau i asesu, cynllunio, darparu a gwerthuso gofal nyrsio yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n hyrwyddo iechyd a lles oedolion sydd â chyflyrau acíwt a chronig.
Wedi'i leoli ar gampws Parc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, bydd hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym gydberthnasau gwaith ardderchog â llawer o ddarparwyr gofal iechyd felly byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang o brofiadau clinigol ledled de-orllewin Cymru, gan gynnwys lleoliadau yn y GIG a'r sector annibynnol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.