Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn amodol ar gymeradwyaeth.
Bydd ein cwrs gradd Nyrsio Anabledd Dysgu yn rhoi’r sgiliau a’r profiad i chi lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.
Yn ystod y rhaglen BSc tair blynedd integredig ofalus hon, byddwch yn dysgu sut mae cefnogi pobl ag anabledd dysgu, o bob oed a chefndir, trwy gydol pob cyfnod o'u bywydau.
Wrth i chi symud ymlaen, bydd ein hystod o strategaethau dysgu ac addysgu yn datblygu eich meddwl beirniadol i'ch galluogi i nodi anghenion amrywiol a chymhleth pobl ag anableddau dysgu; gwneud diagnosis nyrsio cywir a chynllunio a gwerthuso’r gofal sydd ei angen i facsimeiddio cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth mewn cymdeithas. Byddwch yn dysgu sut i ddiwallu anghenion pobl sydd â heriau iechyd meddwl, corfforol, gwybyddol neu ymddygiadol, gan alluogi ymarferwyr i allu cefnogi pobl ag anableddau dysgu o unrhyw oedran.
Digwydda hanner eich addysgu yn y brifysgol ar Gampws Parc Singleton, a'r hanner arall mewn lleoliadau gofal iechyd. Mae gennym berthnasoedd gwaith rhagorol gyda nifer o ddarparwyr gofal iechyd, felly byddwch yn cael mynediad at ystod eang o brofiadau clinigol ar draws de orllewin Cymru.