Beth yw Ffarmacoleg Feddygol?

Ffarmacoleg yw’r wyddor sy’n sail i’r ffordd y mae cyffuriau meddyginiaethol yn gweithio o ran iechyd a chlefydau a sut cânt eu prosesu gan ein cyrff.

Adnabyddir ffarmacoleg fel gradd israddedig hanfodol sydd ei hangen er mwyn datblygu meddyginiaethau newydd, gwella therapïau presennol a thrin cleifion.

Bydd ein gradd mewn Ffarmacoleg yn cynnwys ystod eang o bynciau sy’n sail i feddygaeth gan gynnwys: tocsicoleg, meddyginiaeth bersonol, datblygu cyffuriau, geneteg, ffisioleg, imiwnoleg a niwrowyddoniaeth.

Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol.

Canllaw UCAS Extra

Ein Straeon myfyrwyr

Rose Edwards
Llun Rose Edwards

"Dewisais i Brifysgol Abertawe oherwydd ei llwybrau tuag at Feddygaeth yn bennaf, a fyddai’n rhoi cyfle arall imi gael lle ar gwrs meddygaeth i raddedigion. Hefyd roeddwn i wedi bod i Abertawe o’r blaen a mwynheais fy amser yn y ddinas ac ar y traeth yn fawr iawn. Roedd y staff mor neis a chymwynasgar ac roeddent yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a oedd gennyf."

Darganfod mwy am stori myfyriwr Rose 

Emily Ellis

Pa yrfaoedd a all fod ar gael i mi ar ôl raddio?

Trwy ein tri maes cyflogadwyedd, bydd Ffarmacoleg Feddygol yn rhoi ichi fynediad i ystod o yrfaoedd cyffrous, gan gynnwys y byd academaidd, ymchwil ddiwydiannol, cynhyrchion fferyllol, cyfraith patent, ysgrifennu meddygol a’r diwydiannau bwyd a diodydd. Y tri Maes Cyflogadwyedd yw:

  • Ymchwil Feddygol
  • Menter ac Arloesi
  • Gwyddorau Meddygol Ymarferol (ein Llwybr i Feddygaeth).

Trwy deilwra’ch astudiaethau, gallwch chi weithio tuag at yr yrfa yr ydych yn ei dymuno..

Mae'r cwrs hwn hefyd yn un o'n graddau Llwybrau at Feddygaeth gan gynnig y cyfle am gyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth (i Raddedigion), gan eich helpu i gyflawni eich uchelgais i astudio Meddygaeth a dod yn Feddyg. Maent yn ddelfrydol i chi os ydych:

 

Darganfyddwch mwy - Llwybrau i Feddygaeth

Archwiliwch opsiynau eich cwrs ...

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am bob un o'n cyrsiau. Ar bob tudalen cwrs fe welwch wybodaeth am fodiwlau, gofynion mynediad, staff addysgu, ffioedd dysgu a sut mae ein Llwybrau i Feddygaeth yn gweithio.