Pam Astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae ein gradd, sydd wedi’i lleoli yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, darparwr addysg gofal iechyd mwyaf Cymru, yn archwilio ystod eang o themâu iechyd a gofal cymdeithasol. Datblyga dealltwriaeth glir o’r strwythurau a’r polisïau sy’n sail i iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU.

Mae astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi’r sail delfrydol i chi adeiladu gyrfa werth chweil mewn amrywiaeth o sectorau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, yr henoed, a phobl yn ein cymuned ehangach.

Mae ein BSc 4 blynedd newydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Ymarfer Cymhwysol yn cynnig blwyddyn ychwanegol mewn diwydiant i’r BSc 3 blynedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y flwyddyn ychwanegol hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o waith yn amgylchedd y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ganiatáu i fyfyrwyr adeiladu eu hyder a chael profiad byd go iawn.

Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol.

Canllaw UCAS Extra

Pa swyddi allwn i eu gwneud ar ôl astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol?

Bydd gradd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad i chi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd o fewn y GIG a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol, gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth sifil, sefydliadau gwirfoddol ac elusennol, a mwy.

Mae ein gradd hefyd yn opsiwn gwych i'r rhai sy'n dymuno symud ymlaen i astudiaeth bellach gan gynnwys addysgu ôl-raddedig, Gwyddor Barafeddygol, Gwaith Cymdeithasol, Hybu Iechyd, Cydymaith Meddygol a Gwyddor Biofeddygol.

Am wybod mwy?

Mae gennym ni gymaint mwy rydyn ni eisiau ei rannu gyda chi, beth am archwilio ein tudalen cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu archebu lle ar ein diwrnod agored nesaf.

Am ddarganfod mwy am Abertawe?

Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i astudio ar gyfer gradd Iechyd a Gofal Cymdeithasol? Treuliwch yr amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein rhith-daith, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr cyfredol am sut brofiad yw astudio yn Abertawe a sicrhewch eich bod chi'n cofrestru ar gyfer ein  nesaf lle gallwch, yn bersonol, brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau.

Study by the beach, Singleton Campus