Beth yw Biocemeg a Biocemeg Feddygol?

Bydd ein gradd mewn Biocemeg yn eich galluogi i astudio’r prosesau cemegol sy’n digwydd mewn organeddau byw, gan weithio i ddeall y broses fyw ei hun a meithrin y sgiliau a’r wybodaeth i weithio fel biocemegydd mewn ystod o ddiwydiannau.

Bydd Biocemeg Feddygol yn rhoi ichi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddeall sut mae celloedd yn gweithredu ar lefel foleciwlaidd, gan feithrin y sgiliau a’r wybodaeth i ddatblygu syniadau a chynnyrch newydd a ddefnyddir er mwyn mynd i’r afael â’r heriau iechyd mwyaf rydym yn eu hwynebu bellach.

Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol.

Canllaw UCAS Extra

Ein Straeon myfyrwyr

Ffion Evans
Llun ffion

"Wrth benderfynu ar brifysgol, roedd y cyfle i astudio trwy’r Gymraeg yn bwysig iawn i mi. Roedd Prifysgol Abertawe yn cynnig y cwrs Biocemeg yn rhannol trwy’r Gymraeg. Wrth ddod i ddiwrnod agored roedd y campws yn teimlo’n gartrefol i mi ac roedd y staff yn gyfeillgar, yn gefnogol ac yn frwdfrydig iawn am y cwrs.

Yn yr ysgol, Bioleg a Chemeg oedd fy hoff bynciau. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y newidiadau sy’n digwydd yn y corff wrth ddioddef o glefydau gwahanol, yn enwedig cyflyrau niwroddirywiol.

Felly, roedd astudio Biocemeg yn ehangu fy nealltwriaeth o’r pynciau yma a chefais gyfle i wneud prosiect ymchwil ar glefyd niwroddirywiol yn fy mhedwaredd flwyddyn."

Darganfod mwy am Stori Ffion

Pa fath o swyddi allwch chi eu cael gyda gradd biocemeg?

Mae 100% o'n Graddedigion Biocemeg mewn Cyflogaeth neu astudiaethau pellach 6 mis ar ôl astudio. Mae Biocemeg yn wyddoniaeth ymarferol â chymwysiadau mewn nifer o feysydd biolegol eraill. Mae’r wybodaeth, y galluoedd a’r sgiliau sylfaenol sydd gan fiocemegydd yn ei alluogi i lwyddo mewn gwahanol ddiwydiannau o ysbytai i brifysgolion, amaethyddiaeth, cynnyrch cosmetig, addysg a chynhyrchion fferyllol.

Byddwch yn gallu dewis gradd BSc 3-blynedd neu, os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn dilyn gyrfa ymchwil, ein gradd MSci 4-blynedd. Os byddwch yn dewis Biocemeg Feddygol, byddwch yn gallu dilyn ein Llwybr i Feddygaeth hefyd. Trwy deilwra’ch astudiaethau, gallwch chi weithio tuag at yr yrfa yr ydych yn ei dymuno.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn un o'n graddau Llwybrau at Feddygaeth gan gynnig y cyfle am gyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth (i Raddedigion), gan eich helpu i gyflawni eich uchelgais i astudio Meddygaeth a dod yn Feddyg. Maent yn ddelfrydol i chi os ydych:

 

Darganfyddwch mwy - Llwybrau i Feddygaeth

Archwiliwch Eich Opsiynau Cwrs Biocemeg

Biocemeg
Researcher in Lab

Mae cyrsiau biocemeg yn ymdrin ag ystod eang o bynciau sy'n canolbwyntio ar astudio a thrin afiechyd. Mae biocemegwyr sydd wedi'u lleoli yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf yn archwilio swyddogaeth biocemegol celloedd mewn organebau byw o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol. Mae'r ymchwil hwn yn bwydo'n uniongyrchol i'ch canlyniadau dysgu ac addysgu sy'n golygu bod ein myfyrwyr ar flaen y gad o ran ymchwil i'r heriau clinigol niferus sy'n wynebu'r byd. Mae gennym amrywiaeth o ddulliau astudio ar gael i ddarpar fyfyrwyr o BSc gyda sylfaen, BSc tair blynedd, a'n MSci 4 blynedd sy'n integreiddio prosiectau ymchwil manwl i'ch astudiaethau.

Archwiliwch ein cyrsiau:

Biocemeg feddygol Biocemeg a Geneteg