Trosolwg o'r Cwrs
Astudiwch radd mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda ni, a byddwch yn gallu dysgu'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y maes cyffrous hwn.
Mae ein cwrs gradd wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus a chaiff ei addysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant ac academyddion blaenllaw.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.
Cewch gyfle i astudio cyfathrebu strategol, ymarfer digidol ym maes cysylltiadau cyhoeddus, damcaniaeth cysylltiadau cyhoeddus, strategaeth, marchnata a brandio, busnes ac entrepreneuriaeth, newyddiaduraeth a datblygiad proffesiynol.
Bydd lleoliad gwaith yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o gysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau, a bydd gennych opsiwn o astudio semester dramor yn Hong Kong, Singapôr neu UDA.