Trosolwg o'r Cwrs
Dewch i ddysgu am lenyddiaeth, iaith a diwylliant Cymru ac archwilio meysydd prysur y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus ar y cwrs gradd BA cydanrhydedd hwn.
Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth o'r traddodiad barddol canoloesol i geneuon protest modern.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o iaith a gramadeg Cymraeg, ieithyddiaeth a pholisi cynllunio iaith, ac yn dysgu sgiliau cyfieithu gwerthfawr.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu am ddamcaniaethau allweddol ym meysydd y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus a'u heffaith ar ein cymdeithas a'r ffordd rydym yn cyflawni busnes.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.