Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Menyw filmio chwaraeon

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd BA mewn Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant yn cynnig cyfuniad deinamig o ddamcaniaeth feirniadol a phrofiad ymarferol, gan roi i chi’r sgiliau i ddadansoddi, creu ac arloesi ar draws meysydd newyddiaduraeth chwaraeon, cysylltiadau cyhoeddus, cyfryngau digidol a ffilm.

Mae'r rhaglen hon yn ymgorffori meddwl yn feirniadol, llythrennedd y cyfryngau, a dysgu dan arweiniad ymchwil o'r cychwyn cyntaf. Byddwch yn elwa o addysgu dan arweiniad arbenigwyr sy'n ymroddedig i ymchwil arloesol ym maes y cyfryngau, ochr yn ochr â phrosiectau ac asesiadau byd go iawn sy'n adlewyrchu ymarfer y diwydiant.

Byddwch yn meithrin y sgiliau hanfodol i ddod yn weithiwr proffesiynol hyblyg a myfyriol yn y cyfryngau - yn barod i ymdrin â  thirwedd y cyfryngau sy'n newid yn gyflym a chyfrannu ati.

Mae'r radd hon hefyd yn cynnig dealltwriaeth ddyfnach o sut mae chwaraeon, diwylliant chwaraeon, a newyddiaduraeth chwaraeon wedi dylanwadu ar fywyd cymdeithasol a diwylliannol ym Mhrydain gyfoes a’r tu hwnt. Byddwch yn archwilio dylanwad economaidd-gymdeithasol cynyddol chwaraeon ar raddfa fyd-eang.

Drwy astudio cysyniadau fel dilynwyr brwd, hunaniaeth genedlaethol, naratifau chwaraeon, a chynrychiolaeth yn y cyfryngau, byddwch yn meithrin dealltwriaeth feirniadol o sut mae chwaraeon yn cael eu portreadu a'u profi drwy'r cyfryngau a diwylliant heddiw.

Dyfarniadau a Safleoedd

* Ar gyfer canran y graddedigion mewn cyflogaeth barhaus, astudiaeth bellach, neu'r ddau, flwyddyn ar ôl graddio.
** Wedi'i asesu o dan Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.
*** Cyfryngau a Chyfathrebu
**** Gwyddor Chwaraeon
***** Astudiaethau Ffilm a'r Cyfryngau
****** Astudiaethau Ffilm a'r Cyfryngau 2027
******* Wedi’i asesu o dan Astudiaethau'r Cyfryngau, yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.
******** Astudiaethau Ffilm a'r Cyfryngau
********* Astudiaethau Ffilm a'r Cyfryngau

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mae gofynion mynediad yna i roi arweiniad i chi, nid i fod yn rhwystr, a bydd ein cynnig wedi cael ei deilwra ar eich cyfer chi a beth rydym yn meddwl y medrwch chi ei gyflawni.

Rydym yn gwybod bod pethau'n gallu newid wrth i chi fynd drwy'r siwrnai. Gallwch siarad â ni am eich cynnig ar unrhyw gyfnod a byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn gynnig y medrwch chi ei gyflawni.

Eich Profiad Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant

Mae ein gradd Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant wedi'i chynllunio i'ch galluogi i ddatblygu a chymhwyso sgiliau rhyngddisgyblaethol ymarferol i sefyllfaoedd bywyd go iawn. Wrth ei chwblhau, byddwch yn gwybod sut i ddod o hyd i straeon newyddion diddorol a chymhellol am chwaraeon, ysgrifennu straeon i'w cyhoeddi, ffilmio a/neu recordio'r stori honno i'w darlledu neu ar gyfer podlediadau, golygu'r pecyn fel y gellir ei ddarlledu mewn gwahanol fformatau, a gwybod sut i lywio cynulleidfaoedd a hyrwyddo'r stori honno.

Mae'r rhaglen hon wedi'i datblygu â chyflogadwyedd wrth ei gwraidd, ac mae'n mapio llwybrau cyflogaeth hyfyw i'r cyfryngau chwaraeon, gan arwain at y cyfle i ymgymryd ag ystod o opsiynau lleoliad gwaith ym myd cyfathrebu chwaraeon yn ystod trydedd flwyddyn eich astudiaethau.

Y tu allan i'ch astudiaethau byddwch yn rhan o gymuned gefnogol o fyfyrwyr a byddwch yn gallu cymryd rhan mewn llawer o wahanol glybiau a chymdeithasau chwaraeon gan gynnwys cymdeithas y Cyfryngau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i ymgymryd ag interniaeth cyfathrebu chwaraeon, lle bydd gofyn i chi gwblhau 50 awr o brofiad ymarferol mewn amgylchedd cyfryngau chwaraeon proffesiynol.

Mae'r lleoliad gwaith hwn yn cynnig profiad gwerthfawr o'r sector chwaraeon ac yn eich galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys ysgrifennu at ddiben hyrwyddo, cynhyrchu cyfryngau chwaraeon, a chreu cynnwys. Mae'n gyfle i gymhwyso'ch gwybodaeth ddamcaniaethol mewn cyd-destunau byd go iawn, gan wella eich hyder proffesiynol.

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i ffynnu mewn gyrfaoedd fel:

  • Newyddiaduraeth Chwaraeon
  • Darlledwr Chwaraeon
  • Arbenigwr Cysylltiadau'r Cyfryngau
  • Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol Chwaraeon
  • Cydlynydd Digwyddiadau Chwaraeon
  • Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Chwaraeon
  • Arbenigwr Marchnata Chwaraeon
  • Dadansoddwr/Sylwebydd Chwaraeon
  • Crëwr Cynnwys Chwaraeon
  • Cyfarwyddwr Gwybodaeth Chwaraeon

Mae cyfleoedd ar gyfer astudiaethau pellach ar lefel Meistr ar gael hefyd.

Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Anrh)

Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)